Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel afon ddofn. Heb nac ymrwyfo nac ymfflamychu, y mae'n ymgryfhau. Onid oes rhyw ieuad cymharus rhwng natur cyfansoddiad y bregeth a'i ddull ef o'i thraddodi?[1] Teimlwn fod y gynulleidfa yn mynd yn fwyfwy i'w law. Peidiodd pob pesychu, a darfu pob siffrwd ers meityn.

Y Piwritaniaid a'r Ysgrythur ydyw ei garn ar bopeth. Ni cherddwyd meysydd eang llenyddiaeth Baxter, Gurnal, a Bunyan yn llwyrach gan fawr neb. Am Galfin, y mae ef ar ben y rhestr; ac fe ddywed beunydd y rhydd ef John Owen yn erbyn yr ysgolheigion "a'r hen Germans yna" i gyd.[2] Ond pa ddeunydd bynnag a gafodd o ddyfal ddarllen yn y meysydd toreithiog hynny, rhydd iddo anadl bywyd a gwisg newydd spon.

O'r Beibl y caiff ei gymariaethau bron yn llwyr. Beth bynnag a fo'r pwnc, bydd yn fuan yn "lygio " rhyw hen frenin neu gymeriad arall yn yr Hen Destament, gan ei ddefnyddio i'w bwrpas i'r dim.t Anodd ydyw i wrandawyr David Williams beidio a theimlo bod y Beibl yn llyfr mawr a diddorol i'r sawl a'i darlleno.

Y mae'i ddisgrifiadau byw yn cydio'n dyn ym meddwl cynulleidfa. Cymerer y pictiwr yma o Fartimeus:

Oedd, yr oedd hwn yn ddall, yn ddall-yn byw, symud, a bod, mewn rhyw fyd o dywyllwch parhaus. 'Doedd dim dydd na nos i hwn, ac ni allai ef ddywedyd "melys yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i'r llygad weled yr haul." Yr oedd hefyd yn dlawd, heb fodd i ennill ei fywoliaeth, ac heb berthynas na

  1. Y Parch. W. M. Jones.
  2. Y Parch. John Owen, M.A.