Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi fiixo yn ei feddwl y spot o'r lle y clywsai dyner lais yr Iesu. Mewn munud y mae'n neidio ar ei draed, ac yn dechrau ymbalfalu. "Ond," meddir yma, "ond efe wedi taflu ymaith ei gochl "-rhyw hen fantell sal oedd o wedi gael ar ol rhywun, reit siwr i chi, i'w gysgodi rhag y gwynt a'r glaw-fe'i taflodd hi i ffwrdd mewn rhyw gynhyrfiad o lawenydd a gobaith,-fe'i taflodd hi i ffwrdd heb ofyn i neb ei chadw na dim. Mi roes rhyw ffling iddi, ac, am a wn i, na welodd o byth mohoni mwy.

Dyma'r dyn eto wedi'i adfer:

Wedi'i adfer, y mae nid yn unig yn edrych ar yr Iesu, ond yn canlyn ar ei ol—yr oedd mor sionc a chraff a neb yn y dyrfa. Efe a'i dilynodd gan ogoneddu Duw. Yr oedd ei lais i'w glywed drwy'r dyrfa i gyd, a thraw ymhell, ac yr oedd gan hwn lais iawn, welwch chi, yr oedd newydd fod yn byddaru'r bobol i ryw ddrwg-dymer yn ymbil am drugaredd yn y cywair lleddf. Ac yn awr, wedi troi i'r cywair llon, y mae'n llefain yn uwch o lawer wrth ogoneddu Duw am ei drugaredd, a chwarae teg i'r bobol 'does neb yn ei geryddu'n awr a cheisio ganddo dewi. Fe welir bod ganddo ddychymyg byw a dawn rhyfedd i wneuthur golygfa yn fyw a rial. Teifl ffrwyth ei grebwyll i mewn rhwng cymalau'r adnodau. Ceir darlun gorffenedig, a gellir bod yn bur sicr y bydd y cyffyrddiadau yn rhai naturiol, gwreiddiol, a chymesur.

Ni chred mewn sych-byncio, chwedl yntau, mewn pregeth, neu geisio athronyddu allan o gyrraedd y gynulleidfa. Ond pan fo'n trin pwnc profiad fe ddaw'r darluniau byw i mewn yn rhes—ffrwyth di-