Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nid yn unig i deimlo dyddordeb yn yr achos hwn, ond i gefnogi pob achos da, gan gofio mai amcan y Creawdwr yn ein hanfon i'r byd yma ydyw gwneyd daioni. Ewyllysiwn i chwi hefyd, nid yn unig i beidio cywilyddio o'r enwad crefyddol yr ydych yn perthyn iddo, ond i fod yn falch o hono. Yr wyf yn credu fod ein henwad ni, o ran athrawiaeth, disgyblaeth, a thalentau, yn meddu y safle uchaf yn Nghymru. Gadewch i ni wneyd capel teilwng o honom ein hunain, ac o'n henwad. Yr ydym, fel y mae yn hysbys i lawer o honoch, yn adeiladu capel yn Liverpool a ddeil i'w gymharu âg un yn y dref hono, os nad yn y deyrnas; ac yr oedd y cyfeillion yno wedi dangos haelioni anghyffredin; ac yr wyf yn hyderu y bydd i bobl Abergele wneyd ymdrech gyffelyb. Yr ydym weithiau yn cael ein. gwawdio ar gyfrif gwaeledd ein capelydd, ac nid yn gwbl ddiachos; ond yr wyf yn gobeithio y gwnawn ymdrech egniol i symud y gwaradwydd hwn oddiarnom; ac y bydd i bob un sydd yn bresenol wneyd ei ran tuag at ei symud. Carwn weled pawb yn dyfod i deimlo eu rhwymedigaeth i gyfranu yn ol eu gallu, ac i gyfranu yn siriol. Yn Jamaica, cynhaliodd y Negroaid. gyfarfodi lunio rheolau pa fodd i gyfranu at achos crefydd; ac wedi peth ymddiddan, mabwysiadasant y tair rheol ganlynol:—Yn gyntaf, fod i bob. un roddi rhywfaint; yn ail, fod i bob un roddi yn ol ei allu; ac yn drydydd, fod i bob un roddi yn ewyllysgar. Daeth un ymlaen gyda rhodd fechan, ond gwrthodwyd hi am nad oedd yn ol yr ail reol; yna daeth yr un Negro ymlaen drachefn gan gynyg rhodd fwy, gan ei thaflu i lawr mewn dull anfoddog, ond gwrthodwyd y rhodd hono drachefn am nad oedd yn ol y drydedd reol. Hyderai y rhoddai pawb oedd yn bresenol at yr achos hwn. yn ol ei allu, ac yn siriol, gan gofio mai at achos yr Arglwydd yr oeddynt yn cyfranu, ac y derbynia pob un ei wobr gan yr Arglwydd am yr hyn a gyfranai.

Yna anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. Robert Roberts, Brynhyfryd, yr hwn a ddywedodd:—Nid oes genyf rhyw lawer i'w ddyweyd ar y mater; ond y mae yn dda iawn genyf weled y teimlad a ddangosir yma heno, ac yr wyf yn credu ei fod yn rhywbeth mwy nag a all dyn ei gynyrchu; ac nid wyf yn amheu nad esgora ar ffrwyth gwerthfawr. Byddaf yn ystyried bob amser y dylem wneyd ein haddoldai yn hardd yn deilwng o anrhydedd achos Iesu Grist. Yr oedd boneddwr yn cydfyned â mi i'r stesion oddeutu pedwar o'r gloch prydnawn heddyw, ac wedi dechreu ymddiddan am y capel newydd, gofynodd, "A ydych chwi yn meddwl gwneyd rhywbeth heblaw pedwar mur?" Yr ydym bob amser hyd yma wedi arfer gwneyd ein capelydd yn y dull rhataf. Wrth sylwi ar yr hen lanau, nis gallaf lai nag edrych arnynt fel cofgolofnau o haelioni a theimlad crefyddol yr hen bobl gynt.

Beth bynag a ddywedwn ni am grefyddolder Eglwys Loegr, y