Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn 78 mlwydd oed. Y mae ei fedd yn mynwent blwyfol Abergele. Ysgrifenodd ef gryn lawer i'r wasg yn ei ddydd; a bu yn Ysgrifenydd y Gymdeithasfa o 1831 hyd 1838.

JOSEPH EVANS.—Brodor oedd ef o Ddinbych. Galwyd ef, fel y crybwyllwyd eisoes, i fod yn fugail ar yr eglwys hon; ond wedi ymsefydlu yn y lle, bu raid iddo ymhen mis neu bum' wythnos ddychwelyd adref i farw. Cymerodd hyny le Mehefin 11, 1860, ac efe yn 26 oed. Yr oedd efe yn wr ieuanc o gymeriad nodedig o brydferth.

HUGH HUGHES, PENSARN. Symudodd oddiyma i Liverpool, ac yno y bu farw.

WILLIAM ROPERTS.—Ganwyd ef yn ardal y Carneddi, Arfon Dechreuodd bregethu pan tuag 20 oed. Bu am ddwy flynedd yn Athrofa y Bala. Ar ol hyny bu yn cadw ysgol yn ardal Salem, ger Llanrwst, ac wedi hyny yn gwneyd yr un gwaith, ac yn gofalu am yr eglwys yn Nhywyn, Dyffryn Clwyd. Yn 1860 galwyd ef yn fugail ar yr eglwys yn Abergele, yn olynydd i Mr. Joseph Evans. Ordeiniwyd ef yn 1861. Coffawyd eisoes am y gwaith da a wnaeth efe yma ac mewn manau eraill. Yr oedd efe yn ddiau yn wr da, llawn o ffydd, ac o'r Ysbryd Glan, a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd drwyddo. Bu farw Gorphenaf 20, 1886, yn 57 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent blwyfol Abergele.

HUGH HUGHES, BRYNHYFRYD. Gwr oedd efe a ystyrid yn ddiamheuol yn un o gedyrn y pulpud. Ganwyd a magwyd ef yn Llanrwst. Yr oedd yn fab i'r pregethwr da, sylweddol a chymeradwy, Mr. David Hughes, o'r dref hono, ac yn ŵyr o du ei fam i bregethwr cymeradwy arall, sef Mr. Humphrey Edwards, Bala. Bu am dymor gweddol faith yn ei ieuenctyd dan addysg y Parch. Thomas Lloyd. Dechreuodd bregethu pan tua 23 oed. Ordeiniwyd ef yn