Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn Ngholeg Trefecca, ac wedi hyny yn y Bala. Yn ganlynol i hyn bu yn cartrefu mewn amryw fanau—Llangristiolus, Llanarmon yn Iâl, lle yr oedd pan ordeiniwyd ef yn 1873; yna am ychydig amser yn Bontuchel, o'r hwn le y symudodd i'r Tywyn, Abergele, tua'r flwyddyn 1886, lle y treuliodd weddill ei oes. Cymeriad tawel ydoedd: Ni pharai glywed ei lef yn yr heol." Meddianai fesur nid bychan o arabedd, ac yr oedd yn gofiadur rhagorol. Cofiai ymddiddanion, sylwadau a dyddiadau gyda rhwyddineb. Yr oedd yn ysgrythyrwr cadarn, yn dduwinydd da, ac yn bregethwr buddiol, a chafodd rai odfeuon tra grymus. Chwech neu saith mlynedd cyn diwedd ei oes cafodd darawiad o'r parlys, ac analluogwyd ef i fyned o amgylch megis cynt. Bu farw Mai 13, 1906, pan ar fin cyraedd ei naw a thrugain oed, a chladdwyd ei weddillion yn mynwent capel Abergele.

Am y gweddill o'r pregethwyr sydd yn awr, ac wedi bod mewn cysylltiad a'r Methodistiaid yn y dref hon, gan eu bod yn aros hyd yn hyn," nid ymhelaethir am danynt hwy.

——————

ELLIS W. EVANS, M.A.—Ganwyd ef yn Liverpool, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1864. Ordeiniwyd ef yn 1873. Bu yn fugail yr eglwys Saesnig yn Mhensarn o 1880 hyd 1902.

FRANCIS JONES.—Ganwyd ef yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Dechreuodd bregethu yn 1855. Ordeiniwyd yn 1860. Bu yn weinidog cyn dyfod yma yn Bethesda (Blaenau Ffestiniog), Aberdyfi, a'r Waenfawr. Ymsefydlodd yma yn Hydref, 1883.

EDWIN PETER JONES, B.A.—Mab yw efe i'r Parch. Francis Jones. Ganwyd ef yn Aberdyfi. Dechreuodd bregethu yn Abergele yn 1890. Ordeiniwyd ef yn 1896.