Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweithwyr, ac i brynu a gwerthu arfau. Dywed un adroddiad mai at y Parch. Richard Lloyd, Beaumaris, yr aeth gyntaf, ac mai efe a'i cymhellodd i fyned i Lanfechell. Y Parch. J. Elias, modd bynag, a ddaeth. Yn Ninbych y pregethai foreu y Sabboth cofiadwy hwnw, a daeth ychydig gyfeillion oddi yno i'w ganlyn i Ruddlan erbyn y prydnawn. Nid oedd Mr. Elias ar y pryd ond wyth ar hugain oed, eithr arddelwyd ei weinidogaeth mor neillduol fel y dyryswyd y ffair ar unwaith, ac y rhoddwyd terfyn llwyr a bythol ar arferiad a fuasai yn ymwreiddio yn y lle yma am oesoedd. Mab i'r John Hughes hwn oedd y William Hughes y ceir ei enw yn rhestr y blaenoriaid.

BETTI THOMAS.—Cartrefai y ferch rinweddol hon yn y dref, ac yr oedd yn ddiarhebol am ei gweithgarwch crefyddol. Tra yr oedd eraill yn llafurio gyda'r Ysgol Sul yn y Nant Fawr a'r Wern Bach, gwnai hithau ei goreu yn ei chartref; a rhoddai yn fynych ddyddiau yn ystod yr wythnos i fyned ar hyd y tai oddi yma i Dywyn i ddysgu y preswylwyr i ddarllen, ac i ddeall egwyddorion crefydd. Cymerai y tai ar un ochr i'r ffordd wrth fyned, a'r ochr arall wrth ddychwelyd. Yn mhen ysbaid priododd wr o gryn gyfoeth, ond heb fod yn aelod eglwysig, a diarddelwyd hi. Ond ni thramgwyddodd hi wrth ei hen gyfeillion, nac wrth y Cyfundeb. Wedi i bawb arall o berchenogion y tiroedd o amgylch Tywyn wrthod, cafwyd lle gan wr Betti Thomas i adeiladu capel arno. Y capel hwnw yw y ty a adnabyddir yn awr dan yr enw Miller's Cottage.

WILLIAM MARK. Yr oedd ef yn gymeriad hynod ar amryw gyfrifon. Cyfeiriwyd ato eisoes, ac at ei weddi ar adeg cystudd diweddaf y Parch. T. Lloyd. Yn y Tanyard y gweithiai, ac er na fedrai ysgrifenu, cadwai yn ddi-feth y cyfrifon yr oedd eu gofal arno ef, mewn arwyddluniau o'i ddyfais ei hun. A phan y pwysid y defnyddiau a ddygid