Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn nghyfarfod dosbarth Mai 4ydd, 1868, y Parch. Robert Roberts, Abergele, yn llywyddu, pasiwyd penderfyniad fod rhaniad y ddyled yn sefyll fel yr ydoedd yn niwedd y flwyddyn 1866, a rhaniad y Bettws y flwyddyn hono ydoedd £255. Amlwg ydyw, mewn trefn i dynu y ddyled hon i £255, fod y dosbarth wedi cymeryd dogn da o'r baich, ond bu y £255 yn aros yn hir ar y Bettws. Cawn i aml gais. o'r cyfarfod dosbarth dd'od i'r lle yn eu hanog i symud gyda'r ddyled.

Diwedd y flwyddyn 1868 aeth Lewis Hughes, Bettws, i'r cyfarfod dosbarth, a gofynwyd iddo roddi eglurhad iddynt pa fodd yr oedd y ddyled. Atebodd yntau nas gwyddai, ond fod ganddo arian yr eisteddleoedd a rhent y ty, £11 7s.

Yn 1876 cawn i David Hughes fyned a chais o'r Bettws i'r cyfarfod dosbarth, yn gofyn a fyddai modd iddynt dynu £100 o'r ddyled, a nodwyd dau frawd i dalu ymweliad â'r eglwys ynghylch y mater yma. Nid oedd brys eto i glirio ymaith y ddyled hon ond, o'r diwedd, daeth y dydd i'r Bettws gael rhyddhád, ac aeth pawb allan fel un gwr, a'i lyfr yn ei law, a chafwyd dogn o'r dosbarth i'w cynorthwyo. Dylid cofio mai i'r cyfarfod dosbarth yr oeddynt yn myned ag arian yr eisteddleoedd y blynyddoedd hyn, ac mai Mr. Davies, Roe gau, Llanelwy, ydoedd y Trysorydd; ac mai efe, yn benaf, fyddai yn talu ymaith ddyledion capelau y dosbarth. Y cyfarfod dosbarth, hefyd, fyddai hyd yn nod yn gosod ac yn derbyn rhenti y tai capelau. Cawn a ganlyn yn llyfr y cyfarfod dosbarth:—

"1875, Hydref 25ain, Bettws.—Cymeradwywyd y cynnygion a ganlyn:— (1) Fod yr eglwys i gymeryd i ystyriaeth pwy a gymer y pregethwr bob mis. (2) Fod Isaac Jones yn cael cynyg ar y ty capel ar y telerau canlynol:— Ei fod i dalu ardreth o £5 yn y flwyddyn, ac hefyd i lanhau a goleuo y capel, ac i dalu yr holl drethi ei hunan. (3) Fod y trustees i roi y tô mewn trefn, ac awdurdodi Isaac