Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu ei dy yn fynych yn llety pregethwyr y daith. Yn 1881, symudodd i fyw i'r Clwt, Bettws, a bu farw yno yn 1902, a chladdwyd ef yn y Bettws.

Cyn myned yn mhellach gyda'r blaenoriaid, nodwn ychydig enwau eraill fu amlwg gyda'r achos yma yn y cyfnod hwn:—

Un oedd Robert Roberts, Bryn y Frân, Saer maen wrth ei alwedigaeth. Efe a'i fab o'r un enw, a adeiladasant y capel.

Samuel Roberts, a'i frawd Robert Roberts, y Pebi, oeddynt gymeriadau rhagorol. Bu eu chwaer, Elizabeth Roberts. yn briod â Robert Roberts, y Geuffos. Yr oedd hithau yn athrawes ffyddlawn a medrus yn yr Ysgol Sul.

Un arall y dylid ei henwi oedd Ann Evans, Plas—helyg: gwraig dawel a chrefyddol; a byddai yn arfer cymeryd rhan yn y moddion gweddio, pan na byddai yno frodyr i wneyd hyny; peth lled ddieithr yr amser hwnw.

Brawd arall selog oedd Robert Llwyd, Plas yn y Coed; hefyd, Hugh Jones, Tai newyddion. Ei nodwedd arbenig ef oedd ei wybodaeth Ysgrythyrol. Bu farw yn 1868.

Hefyd, Robert Parry. Tai'r capel; Edward Roberts, Croes onen; William Hughes (Farrier): Robert Jones. Tai newyddion; Hugh Hughes, a'i wraig, Elizabeth Hughes, Bryngwylan, a bu y ddau yn amlwg mewn duwioldeb; Thomas Hughes, Cefn y Castell, yn nodedig o weithgar gyda'r Ysgol Sul.

Yn awr, deuwn at y blaenoriaid a'r gweinidogion mewn adeg ddiweddarach. Y nesaf o'r blaenoriaid oedd Robert Hughes, Ty'r capel. Yr oedd ei gysylltiad agos ef a'r achos cyn ei alw yn swyddog, wedi ei gyfaddasu i'r gwaith ar ol ei alw yn ffurfiol iddo. Yr oedd ganddo brofiad dwfn of wirioneddau yr efengyl, ac yr oedd Llyfr y Psalmau yn "borfeydd gwelltog" ganddo; a bu hyny yn fantais fawr iddo yn y cyfarfodydd eglwysig. Meddai gasgliad gweddol