Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddent hwy. Ac â hyn y cytuna yr hyn a ddywedir yn y Drysorfa am 1847, t.d. 388, yn nghofiant merch i'r William ac Anne Jones oedd yn byw yno ar y pryd. Hwynthwy, meddir yno, "a agorasant eu ty gyntaf o bawb yn y cymydogaethau hyn i groesawu achos y Methodistiaid Calfinaidd." Yr oedd dau reswm dros drefnu i'r pregethu fod yn y Nant Fawr ac i'r cyfarfod eglwysig fod yn y Bryngwyn. Ty bychan oedd y Bryngwyn, tra yr oedd y Nant, fel y mae eto, yn dy eithriadol helaeth. Heblaw hyny, yr oedd Thomas Roberts, y gwr a gartrefai yn y Bryngwyn, yn aelod Eglwysig proffesedig, tra nad oedd William Jones, y Nant, felly y pryd hwnw o leiaf, na'r wraig chwaith, hyd y gwyddis, er eu bod yn bobl tra bucheddol. Naturiol, gan hyny, oedd i'r moddion gael eu trefnu fel y gwnaed. Y Nant Fawr yn ddiau, oedd cartref y moddion cyhoeddus, a'r Bryngwyn y cyfarfod eglwysig. Ymhlith y rhai a ddeuent i'r Nant i bregethu, y mynychaf oedd yr ymroddgar Edward Parry, o Frynbugad, ger Tanyfron, Llansannan. Tymhor ei weinidogaeth ef oedd o 1760 hyd 1784, pryd y bu farw. Yr oedd efe, heblaw bod yn rhagori ar y nifer fwyaf o'r pregethwyr lleygol a gyd-oesent âg ef mewn diwylliant a doniau gweinidogaethol, yn rhagori hefyd yn ei awyddfryd am ddwyn ei gymydogion a'r wlad oll hyd y gallai ef ei chyrhaedd, i dderbyn a chredu yr efengyl. Mae yn sicr gan hyny, yr ystyriai ef y Nant a'r amgylchoedd hyn yn rhan arbenig o'i ofalaeth, yn enwedig gan y tybir yr elai William Jones yn achlysurol i Frynbugad i'r pregethau, ac fod Thomas Roberts, fel y crybwyllwyd eisoes, yn aelod o'r eglwys oedd yn cyfarfod yno.

Yr oedd y Thomas Roberts hwn yn wr nodedig am ei yni naturiol, yn gystal a chrefyddolder ei ysbryd, ac yn haeddu cael coffa un ffaith ymhellach am dano. Pan na byddai pregethwr yn y Nant nac unman yn ei ardal ef ei hun, cerddai fore Sabboth erbyn naw o'r gloch i Frynbugad