Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn oriau'r dydd, fy Nuw, Iôr da,
Trugarog a thosturiol,
Er mor annheilwng ydwyf fi,
Fy nawdd wyt ti'n wastadol.

Yn amyneddgar, megys Job,
Yn wyneb pob cyfyngder,
Dysgwyliaf beunydd wrth dy borth
Am gymhorth o'r uchelder.

Mil mwy eu gwerth i'm henaid mau
Na'r holl drysorau bydol
Yw darpariadau iach eu sawr
Efengyl fawr dragwyddol.

Tra byddwyf yn yr anial maith,
Boed nerthol waith dy Ysbryd
Yn tywys f'enaid heb lesgâu
Hyd uniawn lwybrau'r bywyd.

Ac wedi cyrhaedd pen y daith,
Drwy ffydd a gobaith hefyd,
Dwg f'enaid fry i gael mwynhad
O geinfyg wlad y gwynfyd.


CYFRAITH DUW.

BARN Y DUWIOL AM DANI.

Yn ffyrdd d'orchmynion di, Dduw Naf,
Mi redaf mewn hyfrydwch;
Ac yn dy air myfyrio wnaf,
Oddiyno caf ddyddanwch.