Er Abel dawel, diau—boreufab,
A brofodd ei loesau,
Hynt deg, ni chafodd ond dau,
I ddiengyd o wydd angau.
Tyr angau i lawr trwy ingol loes—gedyrn,
Fyg odiaeth wŷr eirioes;
Arian na dim, rhin nid oes,
Tan nen, all estyn einioes.
Boneddion gwiwlon eu gwedd—teleidwych,
A'r tlodion 'run agwedd,
Ryw awr a ro'ir i orwedd
Yn welwon, bydron mewn bedd.
BARDD IDRIS, mae'n brudd adrodd—un moesgar,
O'n mysg ymadawodd,
O'r golwg fe lwyr giliodd,
Y gweryd tew hagr a'i todd.
Oer athrist fraw aruthredd—a duloes
I'w deulu dillynwedd,
Oedd symud yn fud i fedd
Yr ynad mawr ei rinwedd.
Gwr enwog, hawddgar, union,—rhïeddawg,
A rhwyddaidd ei galon,
Heddynad di frad ei fron,
Prawf eraill, fu'r prif wron.
Bu'n llywydd, noddydd, flynyddau—doethaidd,
Cymdeithas y Biblau;
Ow! 'r hen flaenawr clodfawr, clau,
A gollwyd o Ddolgellau.