Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ENGLYN


I dair merch Mr. John JONES, Cottage , Llanelltyd .
Hoff rian seirian yw Sara — a'i chwaer
Wech eirioes Eliza,

A geneth hardd ddi-gardd dda,
Lân, araul,

yw Leonora.

DIOLCHGA RWCH

I Miss LAURA GRIFFITH , Ty'n'rardd, Llanelltyd,
am anrhegu'r bardd å ffon .
Y lwyr graffus Laura Griffith ,—rasol,

A roes im' ffon newydd
O waith braf “Morgan Dafydd, ”
Gwanar yr oes am gân rydd.

Ffon gu , ïesin, a phen gosod - gwympawg,
Mae'n ffon gampus hynod ;

Ffon erfai , ryglyddai glod
Peraidd, gan fydrydd parod.
Ffon gywrain , firain i Feurig,-luniaidd
Ffon lanwaith , nodedig ;
Ni wel bardd mewn gardd, na gwig.
Lathraidd law -ffon mòr lithrig.

Diolch it fy chwaer dawel,-ddi-anair,
A gwiw ddoniau uchel,

Am ffon gnapiog ddiogel ,
Dàn gamp, medd pob dyn a'i gwel..
Ebrill 12fed, 1853.