Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
ANERCHIAD
1
I deulu y DOLAU GWYN, Meirion.
I deulu gwâr Dolaugwyn - pur odiaeth
Y prydaf dri englyn ;
A chwedi cyhoeddi hyn ,
Ar fyr, gwnaf un i'r forwyn.
Margʻret Lewis sy'n ddewisol — wraig hardd,
Rywiog, hoff brydweddol;
Nid cecrus, ffuantus ffol
Anhynaws wraig hunanol.
Ac Evan , eirian arab-ga air da
Fel gwr doeth llawn cudab ;
Gwir hefyd mai goreufab,
Gwel myrdd, yw Gwilym eu mab.
A morwyn bur dda 'i chymeriad-yw Sian,
Addas iawn ei rhodiad ;
Benyw liwgar foddgar fad ,
Ddistaw , garuaidd wastad .
PLAS UCHAF, DOLGELLAU, A'I FFUMERAU .
>
P'le sy iachach na'r " Plas ucha " -hyffordd
A hoffus breswylfa ;
Ei neuadd hardd ddi-gardd dda
Goethwyd yn fflurawg eitha.
Y cyntedd sy'n lle prydweddawl ,—berth-waith
Ei borth Gorllewinawl
E