50
O'r ochr yma, gweithia gwawl
Drwy'r anedd, a'r Dwyreiniawl.
Cu harddwych gurn cywir-dda - goreurawg,
Geir ar y Plas ucha’ ;
Curn cnapiog, diwyrog da, -curn perffaith ,
Cywrain o emwaith yw y curn yma.
Curn cedyrn - fe'u ceir hwy'n cydio ,-a'r mur
Er maint fydd y taro ;
Ni syflant, glynant dàn glo,
Er i gorwynt hir guro.
Curn difreg a theg o waith Iago , -seirian,
Y pen saer di-guro ;
Pa le 'n mysg mil er chwilio,
’N faith iawn, ceir un o'i fath o.
Addurnwaith a roddodd arnynt,-pybyr
Medd pawb a'u canfyddynt ;
Nodedig hynod ydynt,
Saith gwell na'r rhai sytha’ gynt.
Dyfal y gwelwyd Ifan - y sywdeg
Brif asiedydd seirian ;
Gweithio'n lew i'w goethi’n lân
Ei cafwyd uwch y cyfan .
Y SHOP NEWYDD, DOLGELLAU .
Gwelwch fasnachdy gwiwlan , -hoff hynod,
A dwy ffenestr lydan ;
Mae'r gwydr llathraidd, glwysaidd glân ,
Cu -ferth, yn urddo'r cyfan .