Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
68
Chwi haul a lloer er lles, y ser a'r goleu i gyd,
Chwi nef y nefoedd nes, rhowch oll i Dduw'n unfryd
Dda fawl ddifeth ;
Ffurfafen draw ,
Cymylau'r glaw ,
Gwnewch chwi'r un peth .
Rhoent oll i'r Arglwydd nef, i'w glân greawdydd glod ;
Trwy ei orchymyn Ef, maent bawb fel hyn yn bod
Trwy ddeddf ddidon,
O hir na byr
Yr un ni thyr
Mo'r gyfraith hon.
Holl bethau'r ddaear ddwys, clodforwch Dduw'n ben
gwaith,
Chwi ddreigiau garwle gwys , a'r holl ddyfnderau
maith
A'u rhoes mawrhant,
Tân, cenllysg, ôd,
Tarth , gwynt, bob nôd
Ei air a wnant.
Mynyddoedd, bryniau oll, coed -ffrwyth a'r cedrwydd
cód ,
Bwystfilod yn ddigoll, a holl ’nifeiliaid byd ;
D'owch at fawl Duw
Pob amryw bry',
Holl adar fry ,
Hyfrydaf ryw .