Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto





CAROL NADOLIG .
Ton : - " Y Genhadaeth ."

Cyd ganed hil Adda fe ddaeth y Messia
I Fethl’em Judea ein Meichiau tra mawr ;

Gwir Aer y nef uchod ymwisgodd mewn dyndod,
I achub eiddilod wael lychod y llawr ;

Clywch lais angylion nefol gantorion ,
Traethant newyddion yn dirion cyn dydd,
Fe anwyd Eiriolwr a chadarn Iachawdwr

Yn ddynol Waredwr a'u rhoddwr yn rhydd.
Mawr achos llawenydd i ni sydd o'r newydd,
Wrth gofio boreuddydd Pen Llywydd pob lle,

A'i gadw'n barchedig da wyliau Nadolig
I'r Oen bendigedig Mab unig уy nef ;

Dyma ryfeddod ! ail Berson Duwdod
Yn ei fabandod yn briod a brawd,

Y Duw mawr Tragwyddol yn natur dyn meidrol,
Mae'n syndod anrhaethol, fel dyn da'i'n dylawd.
Os Adda droseddodd a'r gyfraith a dorodd,
Yn Eden pan bechodd fe ddigiodd ei Dduw ;
Ei fai oedd werth bywyd ei hun a'i blant hefyd ,
'Doedd iddo addewid am fynyd hwy i fyw .
Ond Haleluwia a sain Hosana,

Fe ddaeth yr ail Adda i'r lladdfa'n ein lle ;
H