Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHYS,—"Wil, wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen ? Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew mod i wedi fy ail-eni, ond y mae fy meddwl wedi mynd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar. 'Roeddwn i eisio cael deyd wrthat ti mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly, a 'does dim ar y ddaear a ddymunwn yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad. Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr i mi, ond neiff hi mo'r tro i fynd ymlaen fel y buom ni,—mae hi yn siwr o ddiweddu yn ddrwg. Fyddi di ddim yn meddwl am hynny weithie, Wil?"

WIL BRYAN,—"Go on efo dy bregeth; 'ni a sylwn yn yr ail le,' dywed."

RHYS,—"Nid pregeth mo honi, Wil, ond ymgom gyfeillgar."

WIL BRYAN,—"Wel, os nad pregeth ydi hi, mi glywis 'i salach lawer gwaith. Ond i fod yn sad; 'roeddwn i wedi spotio er's tipyn dy fod wedi mynd i'r lein yna, a mi ddeudis hynny wrthat ti, onid o?

RHYS,—"Do siwr."

WIL BRYAN,—"Roeddat ti'n meddwl y baswn i'n gneyd sport am dy ben di. Far from it. Mae'n dda gan 'y nghalon i dy fod wedi cael tro. 'Rwyt ti am fod yn bregethwr, yn 'dwyt ti, (RHYS yn ysgwyd ei ben).—Waeth i ti heb ysgwyd dy ben, pregethwr fyddi di. Mi wyddwn pan oeddat ti'n kid mai dyna fyddet ti, a mi rof air o gyngor i ti. Wel, cofia fod yn true to nature. Ar ol i ti ddechreu pregethu, paid a newid dy wyneb a dy lais a dy got cyn pen y pythefnos. Os gnei di, mi fydda i'n bound o dy hymbygio di. Paid a thrio bod yn rhywun arall, ne fyddi di neb. Wyst ti be, mae ene ambell i bregethwr fel ventriloquist, pan fydd o yn y ty, mae o 'run fath a fo'i hun; ond pan aiff o i'r pulpud, mi dynget mai rhwfun arall ydi o, a mae y rhwfun arall yn salach na fo'i hun, achos tydi o ddim yn true to nature. Paid a chanu wrth ymresymu, 'run fath a phydaet ti ddim yn dy sens, achos dydi'r ffaith dy fod ti yn y pulpud ddim yn rhoi licence iti fod yn wirionach nag yn rhywle arall. Pan fyddi di yn bregethwr, a mi 'rwyt yn bound o fod,—(RHYS yn ysgwyd ei ben), waeth i ti heb ysgwyd dy ben,—paid a chymryd arnat fod ti yn fwy duwiol nag wyt ti, ne' mi fydd gan blant dy ofn di. Wyst ti be, 'roedd ene bregethwr