Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn lodgio yn ein ty ni y Cyfarfod Misol dweutha, a 'roedd gen i ofn o drwy nghalon. 'Roedd o'n reit iach, ac yn byta yn riol, ond 'roedd o'n ochneidio fel bydase'r ddannodd arno fo o hyd,—'roedd o 'run fath a bydase geno fo blât arch ar 'i frest o hyd, a 'roeddwn i fel bydaswn i mewn claddedigaeth tra bu o acw. Mi gymra fy llw y baswn i yn fwy hy ar yr Apostol Paul pe basa fo acw. 'Doedd o ddim yn true to nature, wyddost. Os byddi di eisio rhoi rhyw airs fel yna i ti dy hun, cadw nhw nes byddi yn y ty 'rwyt yn talu rhent am dano fo. Cofia fod yn honourable. Pan fyddi di yn lodgio yn rhywle, cofio roi chwech i'r forwyn, bydae gen ti 'run chwech arall, ne chredith hi 'run gair o dy bregeth di. Os byddi di yn smocio,—a mae y prygethwrs mawr i gyd yn smocio,—cofia smocio dy faco dy hun, rhag iddyn nhw rwmblan ar ol i ti fynd i ffwrdd. Wrth bregethu, paid a beatio gormod o gwmpas y bush,— ty'd at y point, taro'r hoelen yn 'i phen, a darfod hefo hi. Cofia fod yn true to nature yn y ty, ac yn y pulpud, ac os na fedri di neyd i bob one yn y capel wrando arnat ti, rho i fyny am bad job, a cher i werthu calico. Os byddi yn mynd i'r College, a mi fyddi, mi wn,—paid a bod 'run fath a nhw i gyd. Mae nhw'n deyd fod y students 'run fath a'u gilydd, fel lot o postage stamps. Treia fod yn exception to the rule. Paid a gadael i'r blaenoriaid dy gyhoeddi yn wr ieuanc o'r Bala. Pregetha nes byddan nhw yn dy gyhoeddi Rhys Lewis,' heb son o ba le 'rwyt ti'n dwad. Pan fyddi di yn y college, beth bynnag arall fyddi di'n ddysgu, stydia Nature, Literature, a Saesneg, achos mi daliff rheiny am 'u bwyd iti rw ddiwrnod. Os byddi di yn dwad yn dy flaen, ac yr wyt ti yn bound o ddwad,—paid a llyncu poker, ac anghofio dy hen chums. Paid a gwisgo spectols i dreio rhoi ar ddeall dy fod ti wedi stydio mor galed nes colli dy olwg, ac i gael esgus i beidio nabod dy hen chums, achos mi ŵyr pawb mai fudge ydi'r cwbl. Paid byth a thori dy gyhoeddiad er mwyn cael chwaneg o bres, neu mi nei fwy o infidels nag o Gristionogion. Er mwyn popeth, paid a bod yn bregethwr cybyddlyd, a bedyddio dy hun yn ddyn cynnil. Honour bright! gobeithio na chlywa i byth hynny am danat ti. Mi fuasa well gen i glywed dy fod wedi mynd ar dy spri, na chlywed dy fod yn gybydd. Weles i 'rioed gybydd yn altro, ond mi welis ugeinie yn sobri. Mae o'n stranger than fiction. i mi;