Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r drws wedi'i gau, a dim ar affeth hon y ddaear yn'i, 'blaw bwrdd a chadeirie a llyfre,—'rydach chi'n bound o golli'ch iechyd! Bydawn i mewn lle fel hyn am ddau ddiwrnod, mi fyddwn farw ar y spot. Wel, Rhys, sut mae hi'n dwad ymlaen? Wyt ti'n leicio dy le ? Wyt ti'n cael digon o brofisiwns yma, dywed ?"

RHYS,—"Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos. Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi?"

TOMOS,—"Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siwr i ti. Mae hi'n cael ei thrwblo yn anwedd gan y riwmatis, a phoen yn 'i lode, a mi ges scyffyl ryfeddol i gael dwad yma heddyw. Mae hi yn cofio atat ti yn ods. Wyst ti be, fum i ddim oddicartre o'r blaen er's pum mlynedd ar hugain."

RHYS,—"Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos?"

TOMOS,—"Tydw i wedi gweld fawr ohoni eto, ond yn ol hynny weles hi, mae hi'n edrach yn debyg iawn, yn ol'y meddwl i—i dre wedi'i bildio ar ganol cae. Sut ar affeth hon y ddaear na thorren nhw'r coed ene? Ydi'r brain ddim yn drwblus weithie, dwed? Weles i 'rioed o'r blaen res o goed mawr fel coed y Plas ar ganol stryt. Ond 'ddyliwn nad oes gynnoch chi 'run Local Board yma?"

WILLIAMS,—" Mae pobol y Bala yn meddwl llawer iawn o'r coed, Mr. Bartley."

TOMOS,—"Erbyn meddwl, wir, Mr. Williams, synnwn i ddim nad ydyn nhw yn ddigon handi ar ddiwrnod ffair i rwymo catel. Ond mi ddaru nhw yn nharo i yn od pan weles i nhw. Ond dyma ti, Rhys, wyt ti am 'y nghymyd i dipyn o gwmpas i weld y dre? 'Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes a i 'nol. Oes gynnat ti" amser

RHYS,—"Oes debyg. Mi ddanghosaf gymaint ag allaf. Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd."

TOMOS,—"Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un—dyn."

RHYS,—"Well i mi 'molchi."

TOMOS,—"'Molchi! I be wyt ti isio molchi? Ond wyt ti fel pin mewn papur! 'Does yna yr un specyn armat ti. Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed?"