Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TOMOS,— "Welsoch chi 'rioed fy salach i am ddeyd rhywbath, syr; ond fydda i byth yn leicio bod yn od ac anufudd. Mi glywes lawer o son am y Bala, syr, a phan ddoth Rhys yma atoch chi, 'roedd i fam o a finne yn ffrindie mawr, y hi ddaru nwyn i at grefydd, a doeddwn i yn gwybod dim nes iddi hi 'sponio i mi, a gwraig ryfeddol oedd hi,―mi ddeydis wrthi lawer gwaith, bydase hi yn hapno bod yn perthyn i'r Ranters, y byse hi'n gneyd champion o brygethwr, (cheers).—'Hoswch chi, be oeddwn i'n mynd i ddeyd. O ie, pan ddoth Rhys atoch chi, mi bendrafynnes y down ii weld y Bala rwdro, a heddyw'r bore, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn,—(cheers),—'be fi—Heddyw am dani. O Gorwen i'r Bala, mi ges ride efo lot o'r prygethwrs ifinc yma, a mi ges fy synnu yn fawr ynyn nhw, syr. 'Roeddwn i'n wastad yn meddwl am y students mai rhw bethe a'u penne yn'u plu oeddan nhw,—wedi hannar dorri'u clonne, ac yn darn lwgu'u hunen; ond weles i 'rioed fechgyn cleniach,—'doeddan nhw ddim yn debyg i prygethwrs, achos "roeddan nhw'n od o ddifyr. Wyddoch chi be, syr? 'Roedd Mr. Williams, (gan roddi ei law ar ei ysgwydd), yn medryd y'ch actio chi i'r blewyn; byadswn i yn cau fy llygaid, faswn i ddim yn gwybod nad y chi oedd o. Ond rhaid i mi ddeyd y gwir yn'u gwynebe nhw, syr,—dydw i ddim yn 'u gweld nhw mor glyfar wrth brygethu. Mi na i gyfadde mod i'n ddwl, achos yr oeddwn i yn hen yn dwad at grefydd. A mi na i gyfadde mai ychydig o honyn nhw glywes i yn prygethu, a hwyrach nad oedd y rheiny y rhai gore. Pan fyddwch chi yn prygethu, syr, yr ydw i yn y'th dallt chi'n champion. Ond, a deyd y gwir yn onest, fedrwn i neyd na rhawn na bwgan o'r stiwdents fu acw, a fedre Barbara neyd dim ar chwyneb y ddaear o honyn nhw. Wrth bygethu yn Gymraeg ma'r bechgyn yma yn disgwyl ennill i byfoliaeth, ond ma' Rhys yma yn dweyd wrtha i nad ydach chi ddim yn dysgu Cymraeg yn y Coleg. Most y piti ydi hynny! achos waeth iddi nhw heb ddysgu ieithodd pobol wedi marw ers cantodd, os na fedra nhw bygethu mewn iaith y medrai pobol i dallt nhw. Wrach y mod i yn misio hefyd, achos dydw i ddim yn llawer o slaig, tw bi shwar. A fedra i ddim ond ryw grap ar y llythrena, welwch chi. Yr ydw i'n synnu mai mewn ty gwâg yr ydach chi'n cadw'r ysgol, a ma'n dda