Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dân nes cael ateb, a mi ges by return. Yr hen wraig oedd wedi'i sgrifennu o, achos 'roedd y nhad, medde hi, yn rhy cut up. Ond mi wyddwn mai dodge yr hen wraig oedd hynny, achos dydi'r hen Hugh ddim mor dyner—galon a hi. 'Roedd yr hen wraig yn crefu fel cripil arna i ddwad adre, ac yn deyd mor dda oedd ganddi glywed oddiwrth ei 'mab afradlon.' 'Roedd hi yn gneyd mistake yn y fan ene hefyd! 'Does ene ddim analogy rhwng y Mab Afradlon a fi. 'Roedd tad y chap hwnnw yn wr bonheddig, a mi roth hanner 'i stad iddo fo, a mi wariodd ynte filoedd o bunnau, a mi ath i dendio ar y moch, a mi ath adre mewn rags! 'Roedd 'y nhad i wedi torri i fyny, a ches i 'rioed mo'r chance i wario pum punt o'i arian, a ddaru mi ddim lorio fy hun i fynd i dendio ar y moch, a da'i byth adre mewn rags, mi gymra fy llw! Does ene ddim analogy at all. Wel, £400 oedd failure yr hen law, ac yr oedd y creditors wedi acceptio pum swllt yn y bunt. 'Roedd o'n dwad yn 'i flaen yn o lew, a just ffansia gyfrwystra 'r hen wraig,—mae hi'n deyd yn y llythyr,— Mae Sus yn ferch ifanc o hyd.' Fasa'r gaffer byth yn meddwl am tactics fel ene, wyddost. Mi effeithiodd hynny yn arw arna i, a mi faswn yn rhoi cymin ag oedd gen i am gipolwg arni hi. Ond to make a long story short, mi yrris yn ol i ddeyd nad awn i ddim adre nes bydde nhad wedi talu pob dimai o'i ddyled, a mi ddeydis yr helpiwn i o, a dene sydd yn mynd ymlaen rwan. Mae'r cwbl just a chael ei dalu rhyngom ni."

RHYS,—" Yr oeddwn yn deall fod dy dad bron a thalu ei holl ddyled, ond bychan y gwyddwn i dy fod di yn 'i helpu o. Yr wyt yn gwneyd yn dda iawn, ond fe wnaet yn well pe ddoit adref."

WIL BRYAN,—"Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir."

RHYS, " Be ddyliet, Wil, yr wyf fi wedi cael galwad i fod yn fugail yr hen eglwys y cawsom ein dau ein magu ynddi. A fuasai ddim yn well gennyf, os atebaf yr alwad yn gadarnhaol, na dy gael di unwaith eto yn aelod ohoni."

WIL BRYAN, "Wait till the clouds roll by. Stranger things have happened. Hwyrach na choeli di mona i; ond mi gymra fy llw, yr ydw i yn credu fod Wil Bryan yn dechreu dwad yn ei ol."

(Cyffro wrth y drws).