Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef: oblegyd fe fyn Iesu weled o lafur ei enaid; a phob un a fyddo ffyddlon yn ei winllan, diau na bydd eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. O nifer y cyfryw y gwnelo Duw holl ddeiliaid yr Ysgolion Sabbathol. Amen. Cyn gadael hanes yr ysgolion hyn, gallaf ddywedyd yn mhellach, er cysur a chalondid i'r rhai sydd yn llafurio ynddynt, ac er argyhoeddiad i'r esgeuluswyr, fod newyddion tra chysurus yn dyfod o bob gwlad am eu cynydd a'u llwyddiant. fe ddysgir miloedd o bennodau allan bob chwech wythnos mewn rhai siroedd, heblaw lluaws mawr o adnodau gan y plant bach. Ac onid yw hyn yn rhagarwydd fod y wawr ar dori i lenwi y ddaear o wybodaeth yr Arglwydd fel y toa y dyfroedd y môr?

YMOF. Gwir iawn: o'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni! Wele y mae y canwyllau wedi eu dodi yn nwylaw torf luosog o ieuengctyd Cymru; nid oes eisiau bellach ond i'r tân sanctaidd ddisgyn yn nerthol i galonau miloedd o newydd sydd wedi eu dyrchafu â'r fath ragorol freintiau; ac o gael hyny, byddent fel cynifer o ganwyllau dysglaer yn y canwyllbren aur, yn llewyrchu ger bron dynion, fel y gogonedder ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. Ni cheisiaf genych yn mhellach, rhag eich atal oddiwrth eich gorchwylion mwy angenrheidiol, ond rhoddi ychydig o hanes y rhai mwyaf enwog a defnyddiol a fu yn llafurio yn ngweinidogaeth yr efengyl. Nid wyf yn ceisio genych roddi dim o hanes y rhai sydd yn fyw o honynt, gan hyderu y gwna rhyw un hyny ar ol iddynt adael y maes; ond y rhai a fu ffyddlawn yn eu dydd, ac a hunasant yn yr Iesu.

SYL. Wrth ystyried fod coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig; ac er cuddio eu corph yn llwch y bedd, eto rhaid mai annheilwng iawn ydyw claddu eu coffadwriaeth dros byth yn nhir anghof. Gan hyny, yn ol eich dymuniad, rhoddaf ychydig o hanes rhai o'r sêr boreuol, a fachludasant dros derfyngylch amser i'r aneddle lonydd. Fe fydd i mi yn gyntaf, gan hyny, fel y mae yn deilwng, goffâu am y rhai mwyaf adnabyddus yn Ngwynedd, ac a ddaethant i'n gwlad o'r Deheudir, yn wyneb erlidigaethau chwerwon, i bregethu gair y bywyd. Ond er fod ein brodyr yno yn haeddu y blaenoriaeth yn y diwygiad presenol, er hyny ni chaniatu amser i mi yn awr ond braidd eu henwi. Mr. Jenkin Morgans a anturiodd yma gyntaf i gadw ysgol ac i bregethu, a bu ei weinidogaeth yn foddion i ddeffrôi rhai. Yna Mr. Howell Harris a ddaeth fel taran ddychrynllyd, a nerthoedd grymus yn dylyn ei weinidogaeth. Yn ganlynol Mr. Daniel Rowlands a wynebodd yn fore atom megys udgorn arian i beraidd seinio