Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efengyl hedd. Wedi hyny Mr. W. Williams, peraidd ganiedydd Israel, a Mr. Peter Williams a fuont yn enwog a defnyddiol. Mr. Howell Davies addfwyn; arddelodd yr Arglwydd ef yn amlwg yn mysg y Cymry a'r Saeson. Mr. David Jones, o Langan, a fu yma lawer tro yn hyfryd chwareu tannau telyn euraidd yr efengyl, nes y byddai llawer credadyn llwfr yn barod i lamu o lawenydd. Mr. W. Davies, o Gastellnedd, a fu yn was ufudd a ffyddlawn yn eglwys Dduw. Ar y cyntaf nid oedd ei ddawn ond bechan, ond ei gynydd yn y weinidogaeth a fu yn eglur i bawb. John Belcher a lafuriodd yn ddiwyd dalm o amser yn ein mysg. Mr. David Williams oedd dduwinydd da, a gwlithog ei weinidogaeth. Dafydd William Rees oedd wedi ymroddi at waith y weinidogaeth: pressiwyd ef o'r pwlpud yn Ngaerfyrddin; ond yn mhen amser cafodd ei ryddhau, a phregethodd wedi hyny hyd ddiwedd ei oes. Mr. Samson Thomas, o Sir Benfro, a Mr. John Harris, a fuont ffyddlon a diwyd yn ngweinidogaeth y gair tra y parhaodd ei dyddiau. John Evans, Cil y cwm, a berseiniodd hyfryd lais yr efengyl tra y parhaodd ei dymhor byr ar y ddaear. Oni b'ai fod hanes lled gyflawn am Mr. William Llwyd, o Gaio, ni buaswn mor ddystaw am dano; gallaf chwanegu hyn, mai seren oleu a chwmwl gwlithog yn yr eglwys ydoedd. Hefyd Dafydd Morris a deithiodd yn ddiwyd trwy Ogledd a Deheubarth Cymru i gyfranu gair y gwirionedd, gydag arddeliad mawr. Yr oedd ei ddoniau yn dra chyflawn, i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: odid y caed neb yn ein plith wedi ei ddonio mor helaeth ag ef at bob rhan o'r gwaith. Ni chyrhaeddodd oes hir yn y byd. Nid diystyrwch ar neb o'r brodyr ereill a fuont feirw yn y Deheudir, a barodd i mi beidio eu coffâu, ond yr amser a ballai; yr wyf yn hyderu y cymerir fi yn esgusodol am hyn. Bellach i roddi golygiad byr ar siroedd Gwynedd, gan ddechreu ar Sir Drefaldwyn. Jeremiah Williams a ddechreuodd yn fore, ac a fu yn llafurus yn y winllan, ac yn ffyddlon hyd ei ddiwedd. Edward Watkin, wedi hir lafurio yn pregethu yr efengyl, a derfynodd ei ddyddiau yn Nghaergybi. Yr oedd ei ddoniau yn oleu a deallus, a than radd o arddeliad yn gyffredin. William Lewis ac Ellis Edward, er nad oedd eu doniau yn helaeth, eto buont ffyddlon ar ychydig, a gorphenasant eu gyrfa yn dawel. Thomas Meredydd oedd weithiwr ffyddlon yn y winllan, a'i genadwri yn dderbyniol iawn gan bawb o deulu Sïon. A'r hen bererin, Lewis Evans, wedi dyoddef cryn lawer o erlidigaethau, a hwyliodd ei lestr bach rhwng y creigiau nes cyrhaedd yn y diwedd y porthladd dymunol. Terfynaf am y sir yma, ond coffâu am John Pierce, gynt o Sir Gaernarfon, yr hwn a fu ddefnyddiol i