Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Thomas Foulks oedd yn bregethwr serchiadol; byddai llawer o golli dagrau dan ei weinidogaeth. Byddai yn rhanu tua chan' punt bob blwyddyn rhwng y tlodion; ac er hyny yr oedd ei gyfoeth yn cynyddu yn feunyddiol; megys y dywed y gŵr doeth, "Rhyw un a wasgar ei dda, ac fe chwanegir iddo: rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi; gair ein Duw ni a saif byth." Symudodd i Fachynlleth, ac yno bu farw.

Nid oes genyf, wrth adael Meirionydd, ond coffâu ychydig am y diweddar barchedig Mr. T. Charles, o'r Bala. Yr oedd ei ddwfn dreiddiad i wirioneddau yr efengyl yn eu cysondeb yn dra ardderchog; ei lafur diflino gyda phob rhan o waith yr Arglwydd, ei ymarweddiad duwiol, ei agwedd efengylaidd a thirion, a'i ddefnyddioldeb yn ei oes, yn dra nodedig. Galar trwm i filoedd oedd i'r fath seren oleu fachludo, ïe, i dad mor hawddgar ein gadael, fel cynifer o blant amddifaid, ar ei ol. Gellir dywedyd am dano, "Llawer un a weithiodd yn rymus; ond tydi a ragoraist arnynt oll."[1]

  1. Ar ol coffâu am hen bererinion Sir Feirionydd, cawsom y newydd galarus am farwolaeth y Cadben William Williams, o Gaerlleon (gynt o'r Abermaw,) yr hwn ar ei fordaith o Milford i Liverpool, a daflwyd gan dymhestl fawr yn nhywyllwch y nos i greigle arswydus, rhwng Aberdaron a'r Rhiw, yn Sir Gaernarfon: pan y gwelsant eu hunain megys yn safn angeu, anturio a wnaethant i'r bâd, i ddysgwyl achub eu bywydau; ond trôdd hwnw yn ebrwydd gan nerth y tònau, a boddodd y cadben a'i fab, a phawb ereill oedd yn y llestr, ond un morwr ieuangc o Gaergybi a achubwyd trwy gynorthwy trigolion yr ardal, y rhai sydd yn haeddu parch am eu hymddygiadau gonest a charuaidd yn y tro. Yr oedd y Mate, sef yr Is-lywydd, yn ddyn amlwg mewn crefydd a duwioldeb; dygwyd ef i Gaernarfon i'w gladdu gyda'i deulu. Deuwyd â'r Cadben Williams hefyd a'i fab i Bwllheli i'w claddu. Pregethodd y Parchedig Michael Roberts, o flaen cychwyn y cyrph, i dorf luosog o wrandawyr, ac yn eu mysg nifer fawr o forwyr. trefnwyd y claddedigaeth fel y canlyn, sef i'r hen forwyr gario y cadben, ac i'r morwyr ieuaingc gario y mab. Yr oedd eu claddedigaeth yn weddaidd ac yn barchus: nid oes braidd neb yn cofio gweled cymaint o wylo yn mynwent Denso a'r diwrnod hwnw. Wrth ddiweddu yr hanes am dano, cymerwch yr hyn a ganlyn yn mhellach. Yr oedd yn ei ienengctyd yn byw yn ol helynt y byd hwn, yn anystyriol a chellweirus, ac yn yfed i ormodedd: ond o ran ei dymher naturiol yn siriol ac yn gariadus gan ei gyfeillion. Cafodd ddwys argyhoeddiad pan yr oedd tua thair ar ddeg ar hugain oed; ac os oedd efe o'r blaen yn amlwg yn ei ffyrdd pechadurus, gellir dywedyd am dano ar ol hyny fel y dywed yr Apostol, "lle yr amlhaodd pechod, y rhagor amlhaodd gras". Nid hir y bu wedi cael ei oleuo a'i ddeffroi am ei gyflwr truenus a cholledig, a phrofi cymod a heddwch Duw yn ei gydwybod trwy ffydd yn Iawn y Cyfryngwr, heb deimlo gymhelliadau difrifol ar ei feddyliau i anog a pherswadio ei gyd-bechaduriaid (yn enwedig morwyr,) i ffoi i'r wir noddfa, allan o gyrhaedd melldithion y ddeddf, a'r digofaint sydd ar ddyfod. Byddai nid yn unig yn pregethu braidd yn mhob porthladd lle yr elai, eithr hefyd ar ei long, ac yn mhob man y caffai gyfleusdra. Cyflwr ei frodyr, y morwyr, oedd yn gwasgu fwyaf ar ei feddyliau: byddai yn eu hargyhoeddi hwy yn onest, yn llym, ac yn ddidderbyn wyneb; eto byddai ei sirioldeb a'i addfwynder tuag atynt yn peri iddynt ei garu a i fawr barchu, a deuent yn lluoedd i wrando arno pa le bynag y caent cyfleusdra i'w glywed. Mae lle i fawr ofni y bydd yn ddychryn ofnadwy yn y farn a ddaw i wrandawyr yr efengyl, a fyddant wedi y cwbl yn ol, orfod sefyll yn wyneb y tystion a fu mor daer dros Dduw yn eu rhybuddio: pa faint mwy yn ngwyddfod y Barnwr ar ei orsedd! Am weinidogaeth yr hen gadben, nid oedd ei ddull a'i lwybr yn pregethu wedi ei addurno â chymaint o ddoethineb y cnawd, a godidogrwydd ymadrodd; er hyny byddai yn traddodi ei genadwri mewn modd eglur, ac agos at ddeall ei wrandawyr: ac er nad oedd ond megys corn hwrdd yn ngolwg amryw, eto gan ei fod wrth enau yr Offeiriad nefol arddelwyd ef i dynu i lawr ryw ddarnau o gaerau annuwioldeb: diau i lawer gael bendith trwy ei weinidogaeth. Adroddwyd, gan y dyn a achubwyd, ei fod ef a'i gyfaili, y Mate, yn gweddïo ac yn canmawl Duw yn y llong ychydig amser cyn eu trosglwyddo i'r trigfanau nefol: aeth y ddau i'r bâd dan ysgwyd dwylaw yn siriol. Dygwyddodd y ddamwain ryfedd hon, Rhagfyr 16, 1819. Ei oedran oedd 63.