Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffoi i'r wir noddfa rhag y llid a fydd. Llawer taith a roddes ef o gerllaw Caernarfon i Leyn i wrando pregeth neu ddwy: Dylai hyn fod yn argyhoeddiad i lawer, na wrandawant ond un bregeth ar y Sabbath, er eu cael yn eu hymyl. Am Morgan Griffith, soniais o'r blaen am dano y modd y pressiwyd ef, ac fel y bu arno yn ngharchar Conwy, &c. Evan Roberts oedd y pedwerydd; gwnaeth yntau a allai o blaid teyrnas Crist. Aeddfedodd yn gynar i orphwys oddiwrth ei lafur. Yn Lleyn yr oedd ei preswylfa. Siarl Marc oedd un a ddihunwyd yn more ei ddyddiau; yr oedd yn ŵr o synwyrau cryfion, ac yn gadarn yn y wir athrawiaeth, a'i ddoniau yn eglur i draddodi ei genadwri; yr oedd yn barchus yn ei ardal, yn dderbyniol gan yr eglwysi, a'i rodiad yn addas i'r efengyl, ac yn ddeffrous, yn enwedig yn ei ddyddiau olaf.

Robert Williams, gynt o Drewen, er nad oedd ond gwaelaidd o ran ei iechyd, eto ni bu na segur na diffrwyth i alw pechaduriaid at Grist: yr oedd ei agwedd sobr, ei symlrwydd, a'i larieidd-dra yn brawf amlwg o'i dduwioldeb.

Griffith Prichard, a Charles Prichard, a fuont ill dau yn fendith i lawer, er nad oedd eu doniau na'u gwybodaeth mor ardderchog a rhai o'r brodyr, eto cawsant gymhorth i ddefnyddio eu talentau bychain yn ddiwyd ac yn ddefnyddiol hyd ddiwedd eu hoes.

John Hughes, er nad oedd ond isel yn y byd, eto yr oedd ei symlrwydd yn rhagori ar lawer helaethach 'eu doniau: ac os na chafodd ond megys un dalent, ni chuddiodd hòno yn y ddaear, ond defnyddiodd hi yn ffyddlon dros ei frenin.

John Jones, o Benrhyn, a ddaeth i'r winllan yn foreu, ac a fu yno hyd yr hwyr; cafodd fwy o ddoniau na llawer o'i gyfoedion, ac ni bu na segur na diffrwyth yn yr ymarferiad o honynt: ond yn amser yr ymraniad gofidus, a soniwyd o'r blaen am dano, gwyrodd yn fawr ei zēt at deulu Mr. Harris; daeth yn ol drachefn, ond yn lled wywedig; cafodd radd amlwg o adferiad eilwaith; ond er y cyfan, gwyrodd yn ormodol at y wag-broffes a fu yn y Rhos ddu, am ba un y crywyllwyd o'r blaen, ac ni chafwyd lle i gredu iddo hyd ei fedd enill y tir a gollodd. Bu farw gerllaw Pwllheli yn gyflawn o ddyddiau. Na thybied neb fy mod yn barnu yn galed am ei gyflwr wrth adrodd fel hyn; ac ni soniaswn am ei wendidau, ond er rhybudd i ereill, na byddo iddynt gymeryd eu cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, ond aros yn y man y galwodd Duw ar eu hol.

Richard Jones, o Lanengan, oedd addfwyn ei dymher: dechreuodd lefaru ychydig yn gyhoedd, cafodd ei symud i fyd yr ysprydoedd cyn cael ond ychydig brawf o hono. Hugh Thomas, am ba un y soniais eisoes, fel y cuddiwyd ef yn amser