Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erlid, rhag ei bressio. Gellir dywedyd am dano, er na chyfranwyd iddo ond gradd fechan o wybodaeth a doniau i lefaru yn gyhoeddus: eto yr oedd ei gydwybod yn dyner, a'i holl galon yn erbyn pechod, ac yn ddoniol â gafaelgar mewn gweddi.

Richard Dafydd, er nad oedd ond anfedrus yn ei ddysg a'i ddoniau cyffredin yn llefaru, er hyny, rai amserau, byddai yn cael cymhorth ac arddeliad tu hwnt i bob dysgwyliad: diau i'w weinidogaeth fod yn fendith i lawer. William Daniel a lanwodd y lle a roddwyd iddo gan yr Arglwydd yn ffyddlon; teithiau Sabbothol oedd ei gylch yn gyffredin; yr oedd yn dawel a diolchgar am y lle lleiaf yn eglwys Dduw: tynodd ei gwys i ben yn ddiddig, trwy dònau o afiechyd, hyd nes y galwyd ef adref.

Soniwyd o'r blaen am John Griffith (gelwid ef yn gyffredin, John Griffith Ellis,) gellir dywedyd na chynysgaeddwyd neb yn Ngwynedd, yn more y diwygiad, a'r fath gyflawnder o ddoniau goleu, iraidd a gwlithog, ag efe; yr oedd y Gogledd a'r Deheudir yn sychedu am ei weinidogaeth, a pha ryfedd, canys byddai effeithiau grymus a thoddedig yn dylyn ei genadwri. Trueni gresynus i'r ddraig â'i chynffon dynu y fath seren oleu dan orchudd gwrthgiliad, faith flynyddau. Ond rhyfedd ras, ac anghyfnewidiol gariad, a'i cofiodd yn ei isel radd. Adferwyd ef dalm o amser cyn diwedd ei daith.

Edward Roberts, gerllaw Pwllheli, oedd a'i rodiad yn ddiargyhoedd, er nad yn enwog o ran ei ddysg a'i ddoniau, eto bu yn ufudd a ffyddlon dros yr Arglwydd i wneuthur yr hyn a allai. Robert Owen, o'r Tŷ gwyn, oedd gynorthwyol i achos yr Arglwydd, yn ol y doniau bychain a dderbyniodd, tra fu byw. Thomas Ellis, o'r Hafod, a ddefnyddiodd ei dalentau bychain yn ddiwyd yn ei ardal; gellir dywedyd na lanwodd neb ei le yn gwbl yn y parthau hyny hyd heddyw.

Robert Owen, gynt o Fryn y gadfa, oedd yn rhagori ar lawer o broffeswyr mewn symlrwydd duwiol; ei ymddiddanion yn gyffredin a fyddai am bethau buddiol. Gwyrodd yntau yn yr ymraniad i gryn raddau at deulu Mr. Harris, ond cliriwyd ef oddiwrth hyny amser maith cyn ei farw. Lled gymysglyd oedd ei olygiadau ar rai o destynau y Beibl; ond nid dim yn niweidiol i'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Richard Hughes, o Fryn engan, a fu yn dra llafurus trwy Ogledd a Deubarth Cymru i gyhoeddi gair y bywyd; er nad oedd ei ddoniau yn helaeth, eto yr oedd calondid a gwroldeb neillduol yn ei feddyliau gyda'r gwaith yn ddiddiffygio: byddai ar amserau yn cael oedfaon anghyffredin. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau. William Dafydd, o Lanllyfni, a dreuliodd ei yrfa grefyddol yn dra chyfeillgar a siriol yn mysg ei frodyr;