Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erbyn Duw: er dyfod yn lluoedd i wrando y gair, yr oedd yr olwg arnynt yn ddibris ac yn dra anystyriol: yr oeddynt yn ymdrybaeddu yn y pechodau mwyaf gwarthus yn ddigywilydd, megys meddwdod, puteindra, a'r cyffelyb. Yr oeddynt yn cael eu rhybuddio yn ddwys a difrifol o'r pwlpudau, a thaer-weddiwyd llawer drostynt; eto nid oedd dim yn tycio i'w diwygio.

Ond er cryfed ydoedd llywodraeth Satan ar ieuengctyd ac ereill, eto yn eu hisel-radd, fe gofiodd yr Arglwydd am ei bobl; oherwydd fod ei drugaredd Ef yn parhau yn dragywydd. Dynoethodd ei fraich a gwnaeth rymusderau. Agorwyd dyfrddorau y nefoedd, a thywalltwyd y gwlaw graslawn yn gawodydd ar y sychdir. Yna yr anialwch a'r anghyfaneddle a orfoleddasant, dechreuodd y diffaethwch flodeuo fel rhosyn. Cyflawnwyd, i raddau helaeth, yr addewid hono o eiddo Duw, "Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir. Yna y llama y cloff fel yr hydd, ac y cân tafod y mudan."

Tua'r flwyddyn 1817, ymddangosodd yr arwyddion cyntaf fod yr addewid hono ar gael ei chyflawni ar lawer ardal, mewn mesur; "Wele y gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith; gwelwyd blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad." Ac o bob man, Beddgelert a gafodd y fraint o fod yn flaenffrwyth y diwygiad presennol. Cyn hyn gallesid dyweyd am yr ardal hòno, "Dyma Sïon, nid oes neb yn ei cheisio." Ond yn nghanol y nos dywyll o ddigalondid, y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr: ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu y cyfododd goleuni. Nid oes neb yn cofio gweled yn un man arddeliad mwy grymus ar foddion gras nag a fu yn yr ardal yma, a llawer o fanau ereill. Yr oedd yr argyhoeddiadau yn fwy nerthol yn deffroi y gydwybod, yn dwysbigo y galon, a'r tywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn fwy grymus, nag y gwelwyd ef mewn rhai diwygiadau o'r blaen. Yr oedd yn rhagori ar un diwygiad a fu cyn hyn yn ei ledaeniad; canys cyrhaeddodd gradd o hono i bob sir yn Ngwynedd, a rhai o siroedd y Deheudir, a hyny yn yspaid dwy flynedd neu dair o amser; a chwanegwyd at yr eglwysi, er pan ddechreuodd, rai miloedd, rhwng yr amrywiol wledydd sydd wedi cyfranogi o hono. Chwanegwyd at gymdeithas Beddgelert ei hun ynghylch naw ugain; chwech ugain yn Mrynengan, heblaw niferoedd mawr mewn amryw fanau ereill hefyd.

Nid oes ond ychydig o ardaloedd Sir Gaernarfon heb radd o'r