Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iwn glywed ychwaneg genych am Mr. Williams a'i gyfeillion, yn yr amser trallodus hwnw.

SYL. Er i lawer wrthgilio yn yr amser erlidigaethns hwnw, eto cafodd amryw gymhorth i sefyll yn ddiysgog dros y gwirionedd, yn wyneb yr holl dymhestloedd: ac am Mr. Williams, parhau yn ffyddlon a diwyd yn ngweinidogaeth y gair a wnaeth ef, nid yn unig mewn amryw barthau yn Sir Gaernarfon, ond hefyd mewn rhai manau o Siroedd Meirionydd, Dinbych, a Fflint. Yr oedd ei athrawiaeth yn ddeffrous ac fel dyferiad diliau mêl, a'i ymarweddiad yn arogli yn beraidd o rym duwioldeb: yr ydoedd yn anwyl ac yn barchus gan bawb ag oedd yn caru Crist a'i achos. Wedi treulio ac ymdreulio fel hyn yn ngwasanaeth yr Arglwydd ynghylch deng mlynedd, clafychodd o'r crŷd tridiau, a gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, er mawr alar i laweroedd, yn y flwyddyn 1676; neu o 1673 1674, yn ol hanes y Dr. Calamy.

YMOF. Pa fodd yr ymdarawodd y praidd amddifaid ar ol colli eu bugail gofalus a ffyddlon?

SYL. Cawsant eu cynorthwyo yn achlysurol gan amryw weinidogion; yn mysg ereill, gan Henry Maurice, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn y weinidogaeth yn bregethwr teithiol trwy holl Gymru. Ar ol hyny dewisasant un Hugh Owen, Bron y clydwr, yn fugail arnynt: a chan mai pregethwr teithiol oedd yntau hefyd, am hyny nis gallai fod yn fynych yn eu plith. Yr oedd un William Rowlands yn byw yn y Maen llwyd, gerllaw Llangybi, yn dra defnyddiol fel cynorthwywr, yn yr amser blinderus hwnw.

YMOF. Clywais, gan hen bobl, am Henry Maurice, ei fod yn dra defnyddiol yn ei ddydd. Adroddwch beth o'i hanes.

SYL. Mab ydoedd ef i Griffith Maurice o Methlem yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Dygwyd ef i fyny i'r weinidogaeth yn Rhydychain, a bu yn gurad yn Sir Hereford. Symudodd oddiyno i Stretton, yn Sir yr Amwythig. Talai y lle hwnw iddo 140 punt y flwyddyn. Ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal â chlefyd niweidiol, yr hwn a fudodd amryw o'r trigolion i'r beddau; ac yn hyn deffrowyd yntau yn dra dwys yn nghylch ei gyflwr tragywyddol, wrth ystyried ei fod ef ei hun i farw. Anesmwythodd hefyd am iddo gydymffurfio; ond cadwodd ei feddwl dros amser iddo ei hun: yn un peth am ei fod wedi rhedeg i 300 punt o ddyled wrth adgyweirio y persondy; a pheth arall, am ei fod yn ofni na allai ei wraig ddal y tywydd os rhoddai ei le i fyny: ond deallodd ei wraig fod rhyw beth yn ei flino, a phenderfynodd fynu gwybod yr achos o flinder ei feddyliau.