Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyntaf a gleddir yn y fynwent yma." Ac felly y bu. Bryd arall, fel yr oedd yn pregethu yn Machynllaith, a rhai plant wedi dringo i goed ag oedd gerllaw, efe a gyfeiriodd ei law tuag atynt, gan ddywedyd y geiriau hyn, "Pan ddol y plant hyn i oedran gwŷr, fe ymâd yr efengyl o Fachynllaith;" ac felly y bu dros faith flynyddau. Ond y peth hynotaf oedd ei ragfynegiad am ddiwygiad mewn crefydd yn Nghymru, yn y geirjau nodedig sy'n canlyn. "Y mae dynion gwych (hiliogaeth yr hen Jacob) yn barod i gyfodi alian o'r pridd, ac er hyny, o'r nefoedd y disgynant. Y mae ffynonau y môr tragywyddol yn tori allan ynddynt; ac ni all y byd, na'r cnawd, na'r cythraul, mo'u cau, na'u cadw dan y ddaear. Y rhai hyn a orchfygant y tri byd, oddi fewn, oddi allan, ac oddi fry. Fe fydd y rhai hyn yn golofnau yn nheml Dduw, ac arnynt hwy yr ysgrifenir y tri enw: ynddynt hwy y darllenir enw y Tad nefol, yr hwn yw y Brenin anfarwol; a'r Fam nefol, yr hon yw Caersalem newydd, a'r naturiaeth angylaidd; a'r Brawd nefol, Crist, o flaen yr hwn nid yw yr haul ganol dydd ond fel sachlen ddu dywyll; ac wrth ei enw newydd ni bydd ond ychydig a'i hedwyn. Yna yr ymddengys Paradwys, a phren y bywyd, ac arch y dystiolaeth, a'r manna cuddiedig, a'r byd anweledig sydd trwy y byd hwn; a hwnw a bery byth. Ni theflir y pethau hyn i'r cwn. Bwyd y môch yw y mês, ond y rhai ysprydol a fwytânt o fara y bywyd: ac yno y ceir gweled rhagor rhwng y morwynion call a'r rhai anghall, ac y dywedir y llais cryf, Y sawl sy frwnt, bydded frwnt eto, a'r gwatwarwr coeg-ddall, bydded ddall byth. Ond y cyfiawn a gred, ac a gaiff weled â'i lygaid y Brenin Iesu yn ei degwch; a'r delwau a gwympant o'i flaen, a'r teyrnasoedd a blygant i'r bummed freniniaeth fel meibion Israel i Joseph, megys y dywed yr ysgrythyr sanctaidd yn helaeth. Agos yw hyn, wrth y drws: Ie, ac yn oes gŵr fe'i gwelir. Mae у droell yn troi yn rhyfedd drwy yr holl fyd yn barod; ac a dry eto yn gyflymach ac yn rhyfeddach beunydd. Dan. xii. 10; Math. xxv.; Dat. xxii. 11; Esay xxxiii. 17; Dan. vii. 27; Esay xi. 9."

D.S. Os cydmerir yr amser yr ysgrifenodd M. Llwyd y rhagfynegiad uchod â'r amser y torodd y diwygiad allan yn Nghymru; ïe, yn Lloegr, Scotland, ac America hefyd, sef tua'r flwyddyn 1739, gellir gweled i'r cyflawniad ddyfod i ben fel y rhagddywedasai ef, sef, "Yn oes gŵr fe'i gwelir."

YMOF. Y mae yn debygol i lawer o bethau rhyfedd ddygwydd yn yr amseroedd terfysglyd hyny; dymunwn i chwi adrodd ychydig yn rhagor o'r hanes, os gellwch.

SYL. Bu ryw bryd, yn yr amseroedd hyny, i ryw ychydig