Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMOF. Y mae yn dda genyf gyfarfod â chwi, fy nghyfaill caredig, i glywed y newyddion diddanus hyn genych: ond a ellwch chwi gofio am ryw rai ereill yn yr amseroedd tywyll gynt a pheth daioni ynddynt tuag at Arglwydd Dduw Israel?

SYL. Yn fuan ar ol marwolaeth y Frenines Ann, pregethodd y Doctor Hoadley, esgob Bangor, o flaen y brenin (Sior, cyntaf) ar freniniaeth Crist. Yn y bregeth dangosodd nad oedd teyrnas Crist o'r byd hwn, ac na wnaeth Crist erioed esgobion yn arglwyddi, ac na roddodd efe iddynt yr awdurdod a honent fod ganddynt; ac wedi hyny ysgrifenodd llyfr i'r un perwyl. Cafodd ei wrthwynebu i'r eithaf gan Doctor Sherlock, ac ereill; ond amddiffynodd y llywodraeth ef fel na wnaed iddo niweid. Yn nechreuad teyrnasian William a Mary, yr oedd yn byw yn y Gesail gyfarch, gerllaw Penmorfa, y Doctor H. Humphreys, esgob Bangor, yr hwn oedd wr mwynaidd, o rodiad hardd, isel a gwael yn ei olwg ei hun. Prawf o'i ostyngeiddrwydd a ymddengys yn ei ymddygiad at hen wr duwiol (yn ol pob argoelion,) sef Owen Griffith o Lanystumdwy, yr hwn oedd brydydd canmoladwy yn ei oes. Pan y dygwyddai i'r hen wr fyned i wrando ar yr esgob, er nad oedd ond tlawd o ran ei sefyllfa, eto parchai yr esgob ef, gan ei yru o'r Llan o'i flaen, a dywedyd wrtho, "Y mae dawn Duw genyt ti, Owen bach; ond nid oes genyf fi ddim ond a gefais am fy arian." Gellir meddwl ei fod yn fwy diduedd na llawer, gan i'r brenin William ei ddewis, yn mysg ereill, i roddi ymgais at wneyd heddwch rhwng Eglwys Loegr a'r Ymneillduwyr, yr hyn beth yr oedd y brenin yn ei fawr ewyllysio.

YMOF. Oni b'ai fod arnaf ofn eich blino, erfyniwn arnoch roddi byr ddarluniad o agwedd ein gwlad yn yr amseroedd gynt, cyn i freintiau'r efengyl ddyfod mor helaeth i'w mysg ag y maent yn y dyddiau hyn?

SYL. Anwybodaeth a thywyllwch dudew oedd yn gorlenwi y wlad. Nid oedd ond ychydig yn medru darllen. Prinion iawn oedd Biblau, ac nid oedd ond ychydig o lyfrau ereill wedi eu hargraffu yn yr iaith Gymraeg y dyddiau hyny: o ba herwydd yr oedd llawer iawn o weddill Pabyddiaeth yn aros yn y wlad. Pan y byddai gwraig yn esgor, gweddïai y fydwraig a hithau yn daer ar i Dduw a Mair wen ei chymhorth. Hwy a ddysgent eu plant, ac arferent eu hunain, wrth fyned y nos i'w gwely (a'r bore hefyd, os caent hamdden) ddywedyd y Pader, sef Gweddi'r Arglwydd, y Credo, a'r Deg gorchymyn,[1] ynghyda

  1. Peidied neb a chamsynied, a barnu fy mod yn rhoddi un gradd o ddiystyrwch ar y weddi ragorol hono o eiddo yr Arglwydd Iesu Grist, sef y Pader, nag ychwaith ar y Credo, nag mewn un modd ar Gyfraith sanctaidd y Jehofa: ond er nid wyf o'r farn mai mewn ffordd o weddi y dylai y Credo na'r Deg gorchymyn gael eu harferyd.