Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fawr iawn oedd ar-ddaroganau Robin Ddu. Byddai rhyw rai, dan arweiniad Satan, yn cael rhyw ffug o weledigaethau, gan roi allan yn argraffedig eu bod yn gweled nef ac uffern; a byddai y rhei'ny yn effeithio yn fawr ar y gwerinos. Dywedid am gerdd neu garol lled grefyddol, ei bod cystal a phregeth. Rhoddid mwy coel ar aderyn y cyrph a'r wats farw nag ar yr holl Fibl. Os byddai i rai o'r babanod feirw o flaen eu rhieni, yr oeddynt yn coelio y byddai y rhei'ny fel cynifer o ganwyllau i'w goleuo i deyrnas nef, pan y byddent hwythau feirw eu hunain. Digon o'r fath ynfydrwydd bellach: a mi a ddiweddgloaf yn ngeiriau yr apostol, "Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awr hon yn gorchymyn i bob dyn yn mhob man i'edifarhau."

YMOF. Yr wyf yn ddiolchgar i chwi, fy hen gyfaill, am adrodd cymaint a hyn o helynt ein gwlad yn yr oesoedd gynt, Nid oeddwn yn blino arnoch; er hyny y mae brys arnaf am glywed pa bryd, a pha fodd, yr ymwelodd Duw a'n gwlad, i chwalu, mewn graddau, y fagddu o dywyllwch oedd fel cwmwl afiach yn gorchuddio, gan mwyaf, dros holl Wynedd. Pa beth oedd y moddion dechreuol, neu y seren ddydd a ymddangosodd, i arwyddo fod y wawr yn nesâu?

SYL. Er fod Gwynedd, fel y soniwyd, mewn dirfawr dywyllwch ac anwybodaeth, yn enwedig ar ol marwolaeth y gwŷr enwog hyny a fuont yn offerynol i ddwyn gair Duw i'n dwylaw yn ein hiaith ein hunain, fe dorodd gwawr yn y Deheubarth yn foreuach. Tua'r flwyddyn 1620, dechreuodd Mr. Wroth, o Lanfaches, yn Sir Fynwy, bregethu yn enwog ac yn llwyddiannus iawn. A'r gwr enwog hwnw, Mr. Walter Cradoc, tua'r un amser. Mr. Robert Powell, Ficar Cadegstone, yn Sir Forganwg a lafuriodd yn ddiwyd a llwyddiannus hyd y flwyddyn 1640, pryd y gorphenodd ef a Mr. Wroth eu gyrfa a'u llafur yn ngwinllan eu Harglwydd. Yn cydoesi â'r ddau wr enwog hyn yr oedd Mr. Rees Pritchard, ficar Llanymddyfri, yr hwn oedd seren oleu yn ei oes. Yr oedd Mr. Powell a Mr. Pritchard yn gyfeillgar iawn â'u gilydd, ac o fawr gynorthwy y naill i'r llall mewn amser tywyll. Yr oedd hefyd yn yr amser hyny, ac yn ganlynol i hyny, lawer o weinidogion enwog yn mysg yr Ymneillduwyr, y rhai a fuont ffyddlon iawn yn wyneb erlidigaethau chwerwon, ac yn fendithiol i laweroedd yn eu hoes: a bydd eu coffadwriaeth yn arogli yn beraidd hyd ddiwedd. Yn nghylch can mlynedd ar ol y gwŷr defnyddioł uchod, sef yr hen ficar a'i gyfeillion, gwelodd yr Arglwydd yn dda gymeryd yn ei law y Parchedig Griffith Jones, Person Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, yr hwn a fu yn ymdrechgar ac yn ddiwyd dros lawer o flynyddoedd, i bregethu yr efengyl i dorfeydd lluosog gyda grym, dwysder, ac arddeliad mawr; a