Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hebryngwyd ef ran o'r ffordd. Yr oedd wedi cael cymaint o fraw oddiwrth yr erlidwyr, nes yr oedd yn barod i ddywedyd fel Cain, "Pwy bynag a'm caffo a'm lladd." Nid âi heibio i un man heb ofni yn ei galon fod pawb am ei ddal. Bu yn weinidog duwiol a llafurus yn Sir Gaerfyrddin tra fu byw, ond byth ni bu yn iach ar ol bod yn Sir Gaernarfon. —Yn nghylch yr amser hyny, daeth yma offeiriad ieuangc o'r Deheudir, a elwid Mr. David Jenkins; brawd oedd i Mr. Daniel Jenkins, a fu farw yn ddiweddar. Llewyrchodd dros ychydig fel seren ddysglaer, a phwerau y nef oedd yn dylyn ei weinidogaeth. Yr Arglwydd, i ryw ddybenion, a'i symudodd ato ei hun yn nghanol ei lwyddiant ac yn more ei ddyddiau, er galar trwm i lawer. Pan glywodd Mr. Daniel Rowlands, Llangeitho, ei farw, dywedodd mewn syndod a galar fel hyn, "Wele, fe dorwyd ymaith fy mraich ddehau!" Ar ei ddyfodiad i'n gwlad ni, meddyliwyd y cawsai bregethu yn Llan Tydweiliog, gan ei fod yn wr eglwysig: ond ofnodd offeiriad y plwyf roi cenad iddo (er ei fod unwaith wedi lled addaw,) rhag ofn i'w frodyr parchedig wgu arno o'r achos; ac felly y bu gorfod iddo sefyll wrth ochr y Llan i bregethu. Ond er cau drysau y deml rhagddo, fe agorodd Duw galonau, fel yr agorodd galon Lydia, i dderbyn trysorau yr iachawdwriaeth, a chafodd llawer y tro hwnw eu gwir ddychwelyd. Un o'r oedfaon mwyaf neillduol oedd hon o un a fuasai o'r blaen yn y wlad. Bu yn pregethu y tro hwnw ar brif-ffordd yn rhyw le yn Lleyn; a daeth rhyw erlidiwr creulon ato, a chareg fawr yn ei law; amcanodd ei daro, ond goruwchreolodd yr Arglwydd yr ergyd; aeth y gareg heibio i'r pregethwr, a soddodd yn y clawdd.

YMOF. Clywais fod Mr. Daniel Rowlands, o Langeitho, yn enwog iawn yn ei ddyddiau, ac yn un o'r pregethwyr mwyaf rhagorol yn ei oes. Da genyf os gellwch adrodd ychydig o'i hanes,

SYL. Yr oedd ei dad yn berson Llangeitho, heb ddim argoelion neillduol o grefydd arno. Dygodd ddau o'i feibion i fyny yn wŷr eglwysig, sef John a Daniel. Am Mr. John Rowlands, nid oedd ond dyn gwâg, cellweirus a meddw; er ei fod yn ddyn o synwyrau cryfion, a pharod iawn ei atebion. Boddodd ynghanol ei ddyddiau, wrth ymdrochi yn y môr. Mr. Daniel Rowlands, ar ol cael ei urddo, a fu yn gurad yn Sir Gaerfyrddin hyd farwolaeth ei dad; a chan ei fod o gyneddfau bywiog, ac o dymherau siriol, yr oedd yn boddio y plwyfolion yn rhagorol, a deuai llawer i wrandaw arno. Wedi marw ei dad, sefydlwyd ef yn weinidog Llangeitho: ond erbyn dyfod yno, ni byddai ond ychydig yn dyfod i wrando arno. Yr oedd yr amser hyny wr boneddig yn byw yn agos yno, sef yn Llanpenal, a elwid Mr. Pugh, yn weinidog enwog a llafurus yn mysg yr