Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny, yn nghyda harddwch ei berson, ei dymher addfwyn a siriol, oedd wedi enill parch mawr gan bob gradd o'i gydnabyddiaeth: ond er y cyfan, nid oedd ynddo un tuedd at wir dduwioldeb, nes yr ymwelodd Duw ag ef trwy glefyd trwm, yn mha un y deffrowyd ei gydwybod, a llanwyd ei enaid o fraw a dychryn, wrth feddwl ei fod yn wynebu y farn yn anmharod." Wedi gwellhau o'r clefyd, ymroddodd i fyw yn foesol a dichlynaidd, gan ymarfer â gweddïo yn ei deulu fore a hwyr. Erbyn hyn yr oedd son am dano trwy yr ardal. Wedi i rai oedd yn arddel crefydd glywed am y cyfnewidiad oedd yn ei fuchedd, anfonasant ato ddwy waith neu dair, fod gwr yn pregethu yn y lle a'r lle. Ni wnaeth gyfrif yn y byd ar y cyntaf o'u gwahoddiad; ond wrth ystyried nad oedd neb arall yn yr holl ardal yn cael anfon atynt i'w cymhell i ddyfod i wrando y gair, daeth i'w feddyliau, wrth eu bod yn parhau i anfon ato, a oedd gan yr Arglwydd trwy hyny ryw alwad arno, ag y dylasai ei wrando. Y tro cyntaf ar ol hyn pan glywodd fod rhyw wr yn dyfod i bregethu, aeth yno yn ddiymaros: arddelodd yr Arglwydd yr oedfa hono mewn modd neillduol, fel y goleuwyd ei feddwl, i raddau helaeth, am ffordd yr iachawdwriaeth trwy y Cyfryngwr, ac y llanwyd ei enaid o ddiddanwch yr efengyl. Gallasai ddywedyd cyn diwedd y cyfarfod, megys y dywedodd Ruth, "Dy bobl di a fydd fy mhobl i," &c. Yn mhen ychydig o flynyddau ar ol hyn, dechreuodd yotau bregethu yn oleu ac yn wlithog. Braidd y beiddiai neb ei erlid o herwydd y parch oedd gan yr holl ardaloedd iddo. Ni chyfarfyddai gweinidog y plwyf âg ef un amser heb gyfarch gwell iddo; a'i dystiolaeth am dano a fyddai yn wastadol, Ei fod yn credu ei fod yn wr duwiol. Bu amryw weithiau yn pregethu gerllaw mynwentydd rhai o'r eglwysi cymydogaethol, pan y byddai y bobl yn dyfod o'r Llanau, gan na cheid gafael arnynt yn un man arall, i'w hanog i ddychwelyd at yr Ar. glwydd. Treuliodd weddill ei ddyddiau yn ddiwyd a ffyddlon tros ei Feistr, yn addurn i'w broffes, megys seren yn llewyrchu mewn ardal dywyll. Gorphenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1763, yn 44 oed.[1] Yn mhen maith flynyddoedd ar ol hyn, dygwyddodd brydnawn Sabbath ar faes yn agos i Drefriw, i ryw ŵr ddyfod i gynyg pregethu; yn y cyfamser daeth yno wr urddasol, o'r ardal, yn llawn o nwydau digofus a chythreulig, ac a gipiodd y Bibl o law y pregethwr, gan ei droedio o'i flaen y fel pe buasai bêl droed. Cyn pon bir tarawyd y gwr â math o walīgofrwydd arswydus. Byddai yn crochleisio yn ofnadwy fel y clywid ef bellder mawr o ffordd. Yr oedd efe yn ddychryn mawr, nid yn unig i'w deulu, ond hefyd i amryw yn y

  1. Bu gŵr arall o'r un enw yn yr un lle ar ei ol ef ryw gymaint o amser; symudodd oddiyno, a bu farw yn ddiweddar yn Rhuddlan.