Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erchyll fel oʻr blaen. Diddymwyd eu hamcan; gorfu arnynt ddychwelyd yn ol i'r dafarn, i orphen eu diwrnod gyda rhyw ddifyrwch arall: a chafwyd llonyddwch i gadw y cyfarfod yn heddychol. Wrth i ni ddyfod yn ol o'r cyfarfod heibio iddynt, gollyngasant amryw ergydion dros ein penau. Cafodd un wraig feichiog, oedd yn sefyll ger llaw iddynt, y fath fraw, wrth iddynt ollwng ergyd yn ei hymyl, ag a fu yn achos o angeu iddi.

Yr oedd cyfarfod, ryw bryd arall, wedi ei gyhoeddi yn yr un lle, sef Rhos Tryfan, ar brydnawn Sabbath; a daeth lluaws yn nghyd i wrando. Yr oedd gan wr yn y gymydogaeth darw a fyddai yn arfer rhuthro yn erchyll, fel yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos ato. Trôdd y gwr yr anifail yn union at y gynulleidfa: ac yr oedd yn dyfod yn mlaen, dan ruo a lleisio yn ddychrynllyd, tuag at y bobl. Ond cyn ei ddyfod atynt, canfu fuwch encyd oddiwrtho: gadawodd bawb yn llonydd a rhedodd ar ol hono. Addawodd Duw wneuthur amod dros ei bobl ag anifeiliaid y maes, &c. Ond mhen tro o amser, rhuthrodd y creadur afreolus ar y gŵr ei hun, gan ei gornio yn ddychrynllyd; ac o'r braidd y cafodd ddiangc gyda ei einioes.

YMOF. Yr wyf yn rhwymedig iawn i chwi, am adrodd y pethau tra rhyfedd a ddygwyddasant yn ein gwlad yn mysg ein hynafiaid: a chan ddarfod i chwi grybwyll rhai o'r pethau mwyaf nodedig yn achos crefydd, mewn pedair o Siroedd Gwynedd, a ellwch chwi gofio am ryw bethau neillduol a ddygwyddasant yn Sir Feirionydd a Threfaldwyn?

SYL. Am Sir Feirionydd, gellwch gael hanesion lled helaeth yn y Drysorfa, mewn ymddiddanion rhwng Scrutator a Senex. Ond gellir ychwanegu ychydig. Yr oedd, ryw bryd, ryw nifer mawr o bobl, nid llai a phump a deugain, wedi myned mewn llestr i'r Deheudir, o Sir Gaernarfon, i'r cyfarfod mawr yn Llangeitho. Cyn dyfod yn ol, trôdd y gwynt, fel y gorfu i ni ddyfod adref ar hyd y tir. Wrth weled y fath' rifedi o honom, cawsom ein dirmygu a'n gwawdio i'r eithaf yn Aberdyfi: ac o'r braidd y gadawsant i ni ddyfod trwy dref y Tywyn, heb ein herlid dra llidus.

Erbyn ein dyfod i Abermaw yr oedd hi yn dechreu nosi; ac yn dymhestl fawr o wynt a gwlaw. Lled gynhyrfus oedd y pentref ar ein dyfodiad yno; ond bu llawer o'r trigolion mor dirion a lletya cynifer ag a arosasant yno. Aethai rhai yn mlaen i ymofyn lletyau yn y wlad. Felly cafodd pawb y ffafr o le i orphwys y noson hono. Yr oedd yno un wraig, yr hon pan ofynwyd iddi am le i letya, a safodd ar y drws, ac a ddywedodd yn haerllug; "Na chewch yma gymaint a dafn o ddwfr; nid wyf yn amheu na roddech fy nhŷ ar dân cyn y