Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dystion yn eu herbyn. Ond y mae yr Arminiaid presenol yn nyddu eu hedef yn feinach trwy haeru fod Crist yn mru y wyryf wedi llwyr dynu ymaith y pechod gwreiddiol a'i effeithiau, a dodi holl ddynolryw mewn cyffelyb sefyllfa ag yr oedd Adda cyn pechu. Ac mewn canlyniad i hyny fod yr holl fabanod sydd yn marw cyn pechu yn weithredol yn myned oll i'r nefoedd, heb un angenrheidrwydd o gael eu golchi. Gellir meddwl nad oedd yr athrawiaeth hon yn cael ei chredu gan Job, yn ol ei ofyniad, "Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? Neb." Na chan Dafydd ychwaith, yr hwn oedd gwbl wahanol ei farn: "Wele," meddai efe, "mewn anwiredd y'm lluniwyd," &c. Am y pyngciau ereill, megys gwadu etholedigaeth ddiamodol, prynedigaeth neillduol, galwedigaeth effeithiol, a pharhad mewn gras; a'r pwngc tra chyfeiliornus hwnw, o wadu cyfrifiad o gyfiawnder y Cyfryngwr i bechadur, gan haeru mai ffydd yw y cyfiawnder a wared rhag angeu—byddai yn rhy faith, ac allan o fy llwybr fel hanesydd, eu hegluro (pe bawn yn addas i hyny,) a gwrthbrofi y rhesymau yn eu herbyn; gellwch gael hyny yn eglur yn ngwaith Mr. Eliseus Cole, y Dr. Owen, ac ereill. A chan eu gadael, gyda difrifol ddymuniad ar iddynt gael eu gwir oleuo yn ngwirionedd gogoneddus yr efengyl, heb na'u barnu na'u diystyru, ond dywedyd fel y dywedodd un gweinidog duwiol am danynt: "Y rhai sydd dduwiol o honynt, Duw a roddodd ras iddynt, ond dysgu eu hegwyddorion a wnaethant gan eu gilydd."

YMOF. Pa fodd yr oedd proffeswyr yn nyddiau boreuol y diwygiad yn cael yr ordinhadau, sef bedydd a swper yr Arglwydd?

SYL. Yn Eglwys Loegr y byddai pawb yn bedyddio eu plant, a chan mwyaf yn cymuno, yn Ngwynedd: ond byddai ar brydiau rai o offeiriaid y Deheudir yn gweinyddu swper yr Arglwydd yn eu plith yn y capeli. Nid oedd yr amseroedd hyny odid un capel na thŷ wedi ei awdurdodi yn ol y gyfraith i bregethu ynddynt; nac ond ychydig o'r pregethwyr wedi cymeryd caniatâd (licence) i fod tan nodded y gyfraith. Bum yn rhyfeddu lawer gwaith, er maint a ddyfeisiwyd o ffyrdd i geisio gyru crefydd o'r wlad, trwy erlid mewn pregethau, ac argraffu llyfrau i'r un dyben, taflu rhai o'u tai a'u tiroedd, trin ereill yn greulon trwy eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, dodi rhai yn y carcharau, yn mysg ereill, un Lewis Evan a fu yn y carchar yn Nolgelley flwyddyn gyfan, gyru ereill yn sawdwyr, &c., a chan faint o ddichellion a arferwyd, pa fodd na buasai rai trwy yr holl flynyddoedd yn defnyddio y gyfraith i gospi y pregethwyr, yn nghyda'r rhai oedd yn eu derbyn hefyd? Ond fe guddiwyd hyny oddiwrth y doethion