Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychydig gynghorwyr; ac er nad oedd yno ond nifer fechan ynghyd, eto yr oedd presennoldeb yr Arglwydd yn eu plith. Mewn Cymdeithasfa yn fuan ar ol hono, anogodd Mr. Harris bawb oedd yn bresennol i gyfansoddi ychydig benillion a hymnau erbyn y gymdeithasfa nesaf, i edrych a oedd yr Arglwydd wedi cynysgaeddu neb o honynt â dawn prydyddiaeth. Felly y gwnaethant; ac wedi i bawb o honynt ddarllen eu gwaith, dywedodd Mr. Harris, "Williams bïau y canu." Cydsyniodd pawb oedd yno i'w anog i ddefnyddio ei dalent er gogoniant i Dduw a lles ei eglwys: ac felly y gwnaeth efe. Ас er na efrydiodd efe burdeb iaith, na rheolau barddoniaeth, yn gywrain; eto bu ei waith o fendith i filoedd; ac yr wyf yn hyderu y bydd felly hyd ddiwedd amser. Bu Cymdeithasfa fechan yn y Bala yn fuan ar ol dechreu y diwygiad: yr oedd Mr Howell Davies ynddi, ond ni chafwyd fawr o lonyddwch y tro hwnw gan y saethu a'r afreolaeth blin oedd yn mysg y mawrion a'r gwerinos.

Y Gymdeithasfa gyntaf yn Môn a gynaliwyd yn y Mynydd mwyn, gerllaw Llanerchymedd; yr oedd Mr. Thomas Foulks, a John Evans o'r Bala ynddi. Yn mhentref Clynog, ar yr heol, y cynaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf yn Sir Gaernarfon; pregethodd John Thomas o Langwnlle, John Griffith o Leyn, ac ereill yn hòno. Am Gymdeithasfaoedd Fflint, Dinbych, a Threfaldwyn, nis gallaf alw i gof y manau y buont gyntaf yn y rhai hyny. Nid oedd y gwrandawyr y dyddiau hyny ond ychydig o rifedi. Y mae yn gof genyf nad oedd yn Nghymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1767, ond prin ddau gant o wrandawyr. Nid oedd, tros faith flynyddoedd, ond un cyfarfod neillduol yn mhob Cymdeithasfa, sef gan y pregethwyr dros awr neu ddwy. Wedi hyny lluniwyd dau gyfarfod neillduol yn gysylltiedig o lefarwyr a blaenoriaid: un i ymdrin â phethau allanol crefydd, a'r llall i drin materion athrawiaethol, profiadol, dysgyblaethol, ac ymarferol. Ond yn ddiweddar y mae wedi ei helaethu, fel y mae gan y pregethwyr gyfarfod neillduol gyda'u gilydd; felly yr un modd rhyw nifer o flaenoriaid pob sir yn Ngwynedd: ac felly yn yr un modd y maent yn cynal eu cyfarfodydd yn y Deheudir. Bydd torfeydd tra lluosog yn ymgynull iddynt yn gyffredin. Fe fydd o 15 i 20 mil o leiaf amryw weithiau yn gynulledig ynddynt.

YMOF. Rhowch glywed ychydig eto am y cyfarfodydd misol, eu dechreuad a'u cynnydd: y mae yn gof genyf fi nad oedd y gwrandawyr agos mor luosog ynddynt ag y maent yn y dyddiau hyn.

SYL. Nid wyf yn hysbys o'u dechreuad: pa un a oeddynt wedi dechreu cyn yr ymraniad nis gwn. Nid oeddid yn eu