Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

97 1 GYMRU . Hyfrydawl ydyw caffael drych Ar faesydd gwyrddion teg , A gerddi ffrwythlawn Lloegr wych A'u haddurniadau chweg : Hyfrytach fil im' golwg i, O Gymru, yw'th wylltineb di. A thra hyfrydlon hefyd yw, Ar fy morëawl hynt, Gael peraroglau blodau gwiw Yn nofiaw yn y gwynt ; Ond mil hyfrytach yw gan 2, Un awel o'th fynyddgrug di. Hyfrydawl ydyw gweled gwaith Effaith Celfyddyd gain, A rhyfedd adeiladau braith Eirian maith aur a main ; Hyfrytach, Gymru, fil i mi Dy greigiau llymion noethion di. A hyfryd gwel'd afonydd maith, Mal moroedd bychain bron ; A'r llongau gwychion ar eu taith , Gan ddawnsio ar y don ; Hyfrytach, Gymru, fil i mi Yw tyrddiad cryg dy ffrydiau di. G