A hyfryd yw y ddinas lawn,
A phrysur wib ei llu,
A llon gymysgfa dysg a dawa
A'u bywiol siriol ru:
Hyfrytach, Gymru, fil i mi
Tawelwch dy bentrefi di.
Mi ddringaf draw i ben y bryn
I edrych tua'm gwlad,
Ond gwawd dyeithriaid gaf am hyn
Eu dirmyg a sarhad;
Ni wyddant hwy pa faint i mi
Sydd, Gymru, plith dy fryniau di.
—GLAN ALUN.
Y MOR COCH.
Chwythwch yr udgyrn ar gopa Baalsephon,
Gorchfygodd Iehofah! daeth rhyddid i'r caethion.
Cenwch—ucheldrem y gelyn a dorwyd;
Carlamau'r gwyr meirch yn y tywod arafwyd.
Mor wag oedd eu bost! ni wnaeth Duw ond llefaru,
Dyna fyrdd yn y dòn yn gwingo ac yn trengu!
Cenwch yr udgyrn ar glogwyn Baalsephon,
Marchogodd Tehofah ar wàr ei elynion,
Mawl, mawl i'r Gorchfygydd! Hosana i'r Ior!
Yr ormes a gladdwyd yn meddrod y mor;
Ei air oedd y saeth a ennillodd yr orchest,
Anadl ei ffroenau oedd cleddyf y gonewest.
Pwy ddychwel a'r newydd i'r Aipht am y nifer
A yrodd hi allan yn niwrnod ei balchder?
Edrychodd yr Arglwydd o le ei ogoniant,
A'i miloedd yn nhrochion y llif a suddasant:
Chwythwch yr udgyrn ar aelgerth Baalsephon
Mae Israel yn rhydd! a Pharao yn yr eigion!
—ALUN.