Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

100 " Nis bwytaf mwy,” atebai hi, "Nes bwyto Henri dipyn ; " Mi gefais i beth bara ddoe, " Ond echdoe ca'dd ef fymryn ' “ Ar hyn mi deimlwn dan fy mron Y galon lesg yn gwaedu : Eisteddais rhyngddynt ar y bedd 1 geisio'u hymgeleddu. Yn dirion gwesgais ddwylaw'r ddan, Oedd fel y clai gan oerder : A'r bachgen llwydaidd ataf drôdd, I adrodd eu cyfyngder. " Ein ty oedd wrth y dderwen draw, " Gerllaw y dolydd gwyrddion, " Lle'r oeddym gynt yn chwareu o Łyd “ Yn hyfryd a chariadlon. 66 " Un tro, pan oeddym oll yn llon, " Daeth dynion creulon heibio, "Ifyn'd a'n tad i'r môr i ffwrdd ; " Ni chawn mwy gwrdd mohono ! " Ni wnaeth ein mam, byth ar ol hyn, " Ond wylo'n syn a chwynfan, " Gan ddystaw dd'weyd, yn brudd ei gwedd " Yr âi i'r bedd yn fuan. " Un hwyr, pan ar ei gwely'n wan, " A'i hegwan lais crynedig " Galwodd ni'n dau, mewn tyner fodd , "A d'wedodd yn garedig, 66 'Fy anwyl blant ! na wylwch chwil " Gwnewch dyner garu'ch gilydd ; " Dichon daw'ch tad yn ol yn glau, " "I'ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.