Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

109 AMSER. Cwyno yr wyf ond wyf yn ffol, Nid cwyno ar ol pleser, Na chwaith am nerth a thegwch pryd, Na phethau'r byd, ond Amser. Os cefais nerth a chlod a pharch, Caf hefyd arch ar fyrder: Fy nghur sy am na chaf fy nghais, Yr hyn a gollais, Amser. Pa les i mi balasau mawr, A byw mewn dirfawr wychder ; Ac yn y diwedd fod yn ol, Wrth dreulio 'n ffol fy Amser ? Pe gwyddwn rîf y sêr bobun, y Eu lliw , a'u llun, a’u pellder ; Gwell gwybodaeth, a mwy braint, Ystyried maint fy Amser. Pe medrwn ieithoedd pobloedd pell, Heb neb yn well eu ffraethder ; Doethineb byd i gyd yn grwn, Beth dalai hwn heb Amser. “ 'Rwy'n goddef cam , " medd hwn a'r llall, Pa beth, ai dall cyfiawnder ?” Na,byr y bydd, daw boreu i ben Y gwelir dyben Amser.