Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

111 Y LLONG AR DAN !- (SHIP ON FIRE.) Y storm tros y moroedd chwyrn hedai ' n ei hynt, Tra 'r tonau 'n ewynu yn nhrwst crâs y gwynt ; Yn drymaidd llafuriai y llong yn y don, Fel cadarn nofiedydd, a'r dwr lyfai'i bron ; A thywyll y neu, ar y morwr a'i drig, Ond pan yr ym folltai chwim fellten mewn dig ; Mam ieuangc, ar liniau , i lawr oedd yn gla, A gwasgai ei baban i'w mynwes lliw'r iâ Ei llef ar ei Duw, yn y ddryghin , a'i chrî, Oedd gwêl Dad trugaredd fy mhlentyn bach I! Aeth heibio'r trwm gorwynt yn orwyllt ger bron, A'r llong, fel saeth gyflym, a rwygai'r hallt don ; Pob hwyl oedd lwydoleu yn ngwawl gwan y lloer A'rawel yn uchel chwibianai dôn oer --chwibianai dôn oer. Caed nwyf yn y llong fel y rhwygai hi'r dwfr, Pob calon feddyliai am gartre'n ddi lwfr, Ymwasgai'r Fam ieuange ei baban i'w hwsg, A chanai dôn felus, i'w sio ' n ei gwsg, Y gwr a eisteddai gerllaw uwch yr aig, A siriol edrychai yn ngwyneb ei Wraig, O dedwydd medd ef, pan fo drosodd y daith Cawn fyw yn y Bwthyn gerllaw y mor llaith, Yn barod, mewn meddwl, y gwelaf ei ben, A'i fwg yn dolennu o'i aelwyd i'r nen, Ei ardd sy mor wyrdded a'i winwal heb goll, A'n hanwyl gym'dogion i'n croesaw ni oll, A'r plantos yn chwareu gerllaw'r deri'n llon Ah hyfryd ymlithrai y Llong hyd y don. Clywch ! -Beth yw hyn ?-clyweh , clywch ar yr iaith Tân !-Tân ! Yna trwst-pawb i waith, Mawr gynwrf crochleisiau ymgodai'n y gwynt, A'r Fam, ar ei gliniau weddiai'n ei hynt, A'i hymbil ar Dduw, yn ei gofid a'i chri, Oedd Tad pob trugaredd -O gwêl ! Ogwêl fy Mach I ! I'w gwr yr ynredodd - ymlynai'n ei fron, O ! ef oedd ei nodded yn ymchwydd y don, Tân !-Tân ! -Oedd gynddeiriog uwchlaw ac i lawr, Ai gruddiai'r holl forwyr yn welwaidd yn awr, A'u llygaid oedd wylltion i'w gwel'd yn ei wawr, --