Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

114 "Breniniaeth benaf daear A hi nid cymhar yw, A'i phybyr wŷr calonog, A'i serchog ferched syw." " Ha, gwaeddai Sacson gwawdus, Tra ' r ffrydiai'r gwin yn lli, "Gwell genyf fyw yn Lapland Nag yn dy Swabia di " Yr oreu wľad is heulwen, Hon yw Sacsonia dir ! Lle caf lodesi'n ddibrin, A mwynaidd ruddiau mir."

"Tewch ! tewch eich deuoedd, gwaeddai Bohemiad hyf ei fron "O'd oes un nef ar ddaear, Bohemia ydyw hon.' Cân teiliwr yno'r bibell, A'r crydd y corn mor fwyn, A'r mwnwr chwyth yr helgorn, Tros fryn, a llan, a llwyn ' Daeth merch y ty, a chododd I'r nef ei llaw'n ddifrad, L. Gan ddweyd, Mwy nac ymddadlweh Fry mae'r Ddedwyddaf Wlad ! Cyr. D. S. EVANS -