Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

118 Cael gwisg o nawdd heb nyddu, na thalu am ei gwau, Nac angen am ddilledydd i'w llunio'n fwy na llai ; Yn gymwys i'r maintioli, o liwiau heirdd bob un, Yn sicr iawn o bara cyhyd a mi fy hun. Cael ty heb raid ei wella, a noddfa yn y nos, Pan fyddo'r llew a'r cadno yn rhuo yn y rhos ; Cael cysgu heb ddychrynu, na phrofi saeth o Ffrainc, A'r bore, pan ddihunaf, mi ganaf ar y gainc. Cael tamaid wrth fy angen, a hwnw'n ymborth iach, Digonedd o fwyd a diod, heb ormod na rhy fach ; Ni raid im' ond ei gasglu o fore hyd brydnhawn, Rhagluniaeth sy'n gofalu am wneyd fy lletty'n llawn. Pan welwyf ddryll yr heliwr, a chlywed mwstwr maith, Ergydio yn y coedydd gan Ddafydd lywydd llaith, Mi hedaf ar ryw lechwedd lle tardda rhediad dwr, Neu 'hedaf am fy hoedl yn mhell uwch gafael gwr. A phan ddaw tebygolrwydd am deulu bach i'm rhan, Mae genyf o fy mebyd gelfyddyd yn y fan, I adeiladu ' stafell mewn cell yn nghwr y cae, Nas gall yr ych na'r ceffyl na'r mul ddim dweud lle mae. Ni raid im' ragofalu er meddu teulu mân, Pedwar neu pump o honynt, i gyd yn gerynt glân ; Caf ddigon i'w diwallu heb imi dalu dim, A'i gwarchod ar bob perwyl sydd orchwyl anwyl im.’ " Trugaredd sydd yn cynal tylwythau'r goedwig lâs, ' Rwyfinau'n nn o rhei'ny sydd wedi profi ei blâs Trugaredd sydd yn cadw pob un i lanw ei le : Mi ganaf am drugaredd yn fwynaidd iddo ' Fe. PARCH. R. BONNER.