Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

135 "CAN Y FAM WRTH FAGU EI MAB." Clyw ! clyw fy anwyl fab, Llais mam a gân i ti, Aed hwn i'th galon dyner fwyn, Ac nac annghofia fi , O wyneb serchog glân, A delw dy anwyl dad ; Gwerth mil o fydoedd i dy fam, A'r harddaf fedd Ꭹ wlad . A glywir byth fy mab I sŵn y tabwrdd cas, Neu liw neu lun yr hugan goch Dy ddenu i'r gwaedlyd faes ? Ona!Ona!fymab, Gwel ddagrau'th fam yn lli' , Os myn'd yn filwr wnei di byth, Ti dori ' nghalon i. A'th dad cyn myn'd yn hen A syrth i lawr i'r bedd ; A'th chwaer a wrthyd gysur mwy, A wyla'n wael ei gwedd ; A bydd rhyw eneth dêg Yn tywallt dagrau'n lli', Yn foddlon rhoi bywydau fil Er mwyn dy ryddid di.