Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

136 Os meddwl byth a wnei Amfyn'd ifaes y gâd, O ! cofia'r archoll rodda hyn I’th fam a'th anwyl dad ; A chofia'th dyner chwaer, A'r eneth gâr mor gu Bydd hyn yn angeu iddynt hwy, Ant oll i'r beddrod dû. Pe medrai'r heulwen fry, Y lloer, a ser y nef, A bodau y cyfanfyd oll Amunwaith godi'u llef; Hwy dd'wedent yn un llais, “Fab ieuangc,gwrando ni; Na ddos yn filwr mewn un modd I dywallt gwaed yn lli’.” Os bydd penaethiad byd, Breninoedd yn ddifraw , Yn cwympo allan mewn rhyw fodd, Ymladdent law yn llaw ; I ymladd drostynt hwy Nac aed fy mhlentyn mad I roddi nac i dderbyn clwyf, Dan ffug dros glod ei wlad . Mae gwaed y milwr draw , Ddaw yn dy erbyn di,