Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

137 Fil-fil o weithiau'n fwy ei werth Na pherlau'n daear ni : Os tywallt hwnw wnei, Ti fyddi'n lleiddiad dyn ; Ond tebyg iawn, fy anwyl fab, Mai cwympo wnei dy hun. Mae meddwl am y loes A roddai'r newydd syn, Fel cleddyf yn fy mynwes i I'w deimlo'r funud hyn ; O y anwyl, anwyl fab, fGwel ddagrau'th fam yn lli' Os myn'd yn filwr wnei di byth, Ti dori ' nghalon i. Mil o gusanau mwyn A roddaf'nawriti ; Na ddos yn filwr, fy anwyl fab, I dori 'nghalon i ; Na ddos yn filwr byth I dywallt gwaed yn lli', Na ddos yn filwr, fy anwyl fab, A dedwydd fyddaf fi . Tredegar. CYMRO BACH.