Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

139 UCHENAID AM GYMRU. Ha Gymru ! i'th fynwes ehed fy uchenaid, Mewn adgof o'th foelydd yr wyf yn pruddhau ; Ucheldrem dy gedyrn fynyddau a garaf, Clogwyni'th gadernyd a ddenant fy mryd ; Ymwisgant yn mhlethiad melynwyn niwl araf, Ireiddion gymylau gusanant yn nghyd. Yn nghadwen dy enw ymglymodd fy enaid, Nid oes ond dy gerdded a all ei rhyddhau . Tryliwiog yw'th ddaear o feillion a bwysi, Teg emau pefr natur a drwsiant dy fron ; A'th wyrddfor grisialaidd, ymdorchog ei gwysi, A chwardd ar dy orchest yn nrylliad ei don. Didaw ddisgyniadau y rheiydr i'th lenydd , A felys chwareuant trwy'th nentydd eu sain, A phelydr goreurog yr haulwen ysplenydd, A ddawnsiant ar lygaid y grisial yn gain. Ha Gymro ! dy dlysau ŷnt dra gogoneddus, Pob ogof o'th eiddo sy ddengar ac erch ; Serch feini crogedig uwch ben sy fawreddus, ! Addurnant dy goron, gorlyngcant fy serch Prid orllwyn a chromlech sydd urdd i'th lechweddau, Maen chwyf dy Dderwyddon a adgan dy fraint ; Hidl ddagrau tosturi a seliant y beddau Lle huna dy ddewrion, lle gorphwys y saint. Ymwibied meib gloddest yn ngrym eu blynyddoedd, Y destlus wastadedd, a bawddfyd i'w mysg, Clogyrnog ysgythriad y crychion fynyddoedd, Ynt benaf anwylion myfyrdod a dysg : O'm gŵydd aed pêr erddi a'u blodau deniadol, Encilied arogliad y lili wén lân, I mi rho'wch y moelydd a'r creigiau serchiadol, Hwynt-hwy a gysegrwyd -i RYDDID A CHAN. ROBYN DDO ERYRI.