Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

140 PENNILLION A gyfansoddwyd yn Buenus Ayres, Amerig Ddeheuol. Fy ngwlad ! Ow, fy ngwlad, lle trigianau fy nhadau, Clyw'th blentyn yn llefain am danat dan gur ; Mae meddwl am danat yn tanio'm serchiadau, Mae'n llosgi fy mynwes â chariad mwyn pur. Diammau fod yma ryw ddaear gyfoethog O berlau a ffrwythydd , a llysiau mwyn teg ; Mil gwell gennyf fi ddaear Cymru fynyddog, A'i ffrwythydd a'i llysiau i'r corph pan fo’n freg. Ni welir gan rhai'n ond llid a thrallodau, Er cymmaint eu cyfoeth, trawsineb a brad ; Ond golchwyd pob bradau â gwaed fy nghyndadau O fryniau hen Gymru, a thi yw fy ngwlad, Ni fynwn mo'r gwledydd ar hyd De la Plata, Sy'n cyrhaedd odd' yma i'r India, medd rhai, Am fywi anghofio trigolion tir Gwalia, Sy'n fil mwy dymunol od ydyw yn llai. Rwy'n tybied y clywaf swn pêr dy delynau, Peroriaeth dy reieidr yn disgyn i'm clyw, Y gwelaf dy gwmwl-doedig fynyddau, A'r bwthyn lle mae fy anwylyd yn byw ; Ond, Ow ! im' nid ydynt ond gwag ddarluniadau, A esyd fy meddwl crwydredig ger bron, Er iddynt am enyd fer loni'm meddyliau, Mawr dristwch ddilyna yr enyd oedd lon. Fy ngwlad ! Ow, fy ngwlad, fel hyn yr wyf beunydd Yn llefain am danat dan loesion o nyd, Wyt fil myrdd anwylach i mi na'r holl wledydd A welais i etto -Baradwys y byd ! Os dof fi'n ddiangol drwy dân y magnelau I droedio ym mhlith dy drigolion di sen, Yn iach, byth yn iach, i Amerig y dehau, Yn iach i'w gwasanaeth byth mwyach, Amen. SIARL WYN O BENLLYN.