Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

141 "L ODLIG SERCH . Cyflwynedig i Rian. Cyfliw blodau perthi gwynion, Ydyw gwêdd fy mun lygadlon, Claer fel caenan manod unnos, Clain fel manwlith ar y deilios, Deune'r breïlw, gorne'r wendon Yw'r Forwynig bïau nghalon : Och ! na chawn yn gyflawn goflaid, Wasgu MWYNWEN gymmen gannaid : Yn y glaslwyn mwyn yw meinir M WYNWEN yno a ddymunir. O! mor swynol yw cusanu , Gwefus ruddgoch mun lygeittu : Sugno serch y ferch yn firain, Lladryw finon , eilw lliwdrain ': Lleddir fi gan fanon feinäel Mud i'm ydyw rhaid ymadael. MWYNWEN irwen lawen liwus Clyw fi'n erfyn-r'wyfyn glwyfus :— "Dyro gusan fungan fwyngu, Gwisg diriondeb, tyr'd i'm gwasgu, "Dan y fedwen fonwen fanwallt, " Dal fy mhen yn llwyni'r wenallt ; " Moes i'm gusan, ddynan ddenol , " Ing fy enaid sydd angeuol. " Cyn fy mêdd, O clyw fy ngweddi, "Cyn i'm calon dirion dorri ; —