Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

143 Na wrando ar un cynghor cu, Na'r ymresymu sydd ; Dirmyga'r ddeddf, a thor bob darn, Ond cofia'r farn a fydd ! Cais bob llawenydd , na lwfrhâ, Ymhoewa, rhodia'n rhydd ; Gwna orchymynion Duw yn sarn, Ond cofia'r farn a fydd ! Yfarn!yfarn!yfarnafydd! O ryfedd ddydd a ddaw ! Yfarn!y farn!y farn afydd! A'th ddyry'n brudd mewn braw. Clynog. EBEN FARDD. KATHLEEN FANWYLYD. Kathleen f'anwylyd, mae'r boreu yn gwawrio, A'r heliwr yn seinio ei gorn yn y llwyn ; Ar edyn yr hedydd mae purwlith yn yerlio, A tithau yn huno-O gwrando fy nghwyn ; Ai wyt ti'n anghofio mai ' chydig o oriau A gaf cyn dy adael, fy mûn deg dy bryd, Efallai am flwyddyn, efallai hyd angau, Angyles fy nghalon ! paham 'rwyt yn fûd ? Kathleen f'anwylyd , dihuna, dihuna, Mae'r haul yn goreuro bryn, dyffryn , a dôl ; Rhyfeloedd a'm galwant i'r waedlyd ymladdfa, A phwy wyr, f'anwylyd, a ddeuaf yn ol ? I lawr hyd fy ngruddiau yn hidl rhed dagrau, Wrth adael fy Nghathleen i ymladd â'r byd ; Efallai am flwyddyn, efallai hyd angau, Angyles fy nghalon paham ' rwyt yn fûd TALHAIARN.